Yn gynharach fis yma, cyhoeddodd Plaid Cymru gynllun i dalu hyd at £30,000 i athrawon dan hyfforddiant, os daw buddugoliaeth i’r blaid yn yr Etholiad Seneddol nesaf. Cafodd y cynllun ei gyhoeddi yng nghynhadledd flynyddol Plaid Cymru ar y 10fed o Hydref, gan y llefarydd addysg, Cefin Campbell. Dywedodd y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn cynnig “cymhellion teg a chystadleuol i ddenu a chadw athrawon” yng Nghymru.

Eu bwriad fyddai cynnig taliadau cyfatebol i’r rheini sydd ar gael yn Lloegr erbyn 2030. Byddent yn canolbwyntio ar athrawon pynciau blaenoriaeth a’r rheini sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ar yr amod eu bod yn aros i weithio yng Nghymru am 5 mlynedd wedi eu cyfnod prawf. Daw’r cyhoeddiad mewn cyfnod pan fo llawer o fyfyrwyr y brifysgol yn ystyried eu camau nesaf, wrth iddynt baratoi at raddio ymhen rhai blynyddoedd.

I rai, mae’r polisi hwn yn un a allai ddylanwadu’n fawr ar eu penderfyniadau. Mae Mari Jones, myfyrwraig yn ei thrydedd flwyddyn, yn ystyried dysgu fel gyrfa, ac wrth ymateb i gynllun Plaid Cymru, meddai, “Mi fyddai tâl cymhelliant fel hyn yn denu mi i’r yrfa ac yn gorbwyso unrhyw anfanteision ac amheuon eraill.” Dywedodd, wrth hyfforddi “rhaid gweithio oriau athrawon, heb eu tâl. Dwi’n nabod myfyrwyr sydd wedi gweld y flwyddyn yn anodd iawn yn enwedig yn ariannol.

Gweithio oriau athrawon, heb eu tâl

Rydw i’n siŵr byddai’r tâl cymhelliant yn help mawr i fyfyrwyr y dyfodol i osgoi’r gofid ariannol hwn.” Hefyd yn ystyried hyfforddi fel athro, y mae Teifi Mead, myfyriwr ei ail flwyddyn. Dywedodd, “Byddai’r arian yn help mawr o ran talu am drafnidiaeth i’r gwaith ac i’r gwahanol leoliadau swydd y mae athrawon angen eu gwneud wrth hyfforddi.” “Mae’r ffaith bod y taliadau ddim yn gyfwerth â Lloegr yn y lle cyntaf yn rhywbeth ofnadwy. Os ydy Llywodraeth Cymru rili am weithredu dros y Cymry, dylse bod canfasio a sicrhau hafalrwydd rhwng taliadau athrawon Cymru a Lloegr yn flaenoriaeth.

Dim esgus.” Ychwanegodd, “Mae athrawon a’r byd addysg yn sector sydd ddim wedi cael digon o gymorth am ddegawdau yng Nghymru, ac i fod yn onest mae’r dyfodol yn edrych yn un tywyll i athrawon o dan y blaid Lafur.” O dan y Llywodraeth Lafur bresennol, mae athrawon pynciau blaenoriaeth yng Nghymru yn gymwys i dderbyn £15,000 mewn grantiau. Ond bydd Llywodraeth newydd yn cael ei hethol fis Mai nesaf, ac mae’r arolygon barn diweddaraf yn awgrymu mai Plaid Cymru sydd ar y blaen o ran bwriadau pleidleisio. Byddai potensial i gynllun y blaid ddyblu swm y grantiau presennol sydd ar gael i athrawon dan hyfforddiant.

Cyhoeddodd Cefin Campbell y byddai Llywodraeth Plaid Cymru hefyd yn cymryd camau allweddol eraill i adfer safonau addysg yng Nghymru, yn dilyn yr hyn a ddisgrifiodd ef fel “methiant Llafur i gael hyd yn oed y pethau sylfaenol yn iawn”. Mae’r rhain yn cynnwys cyflwyno cynllun llythrennedd a rhifedd, cynnwys llyfrgell ym mhob ysgol gynradd a chynnwys darllen drwy gydol y cwricwlwm. Yn sicr, bydd Etholiad Seneddol 2026 yn dyngedfennol i benderfyniad nifer o fyfyrwyr i fentro i’r sector addysg, ac i ddyfodol y sector yn gyffredinol.