Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi gwrthod galwad Llafur i gefnogi ei chyllideb yn y Senedd heb drafodaeth am y swm dyledus HS2 i Gymru.
Mae gofyn i Lywodraeth Cymru dderbyn cefnogaeth oleiaf un blaid arall yn y Senedd er mwyn cadarnhau ei chynllun gwariant gan mai 30 (50%) o seddi sydd ganddynt ym Mae Caerdydd.
Ond, gall hyn fod yn anoddach na’r disgwyl ar ôl i Blaid Cymru dynnu ei chefnogaeth heb sicrwydd buddsoddiad teg i Gymru, sy’n cynnwys y ffrae barhaus dros ddyled HS2 i Gymru.
Dynodir cynllun HS2 sef gwasanaeth rheilffordd uwchraddedig rhwng canolbarth Lloegr a Llundain yn gynllun ar gyfer ‘Lloegr a Chymru’ a hynny er nad oes troedfedd o drac yn dod i Gymru. Yn sgil hyn, dydy Cymru ddim yn cael dim un ceiniog ychwanegol i’w chyllideb.
Daeth sylwadau Rhun ap Iorwerth yn ystod ail ddiwrnod cynhadledd y blaid yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd. Cyhuddodd Arweinydd Plaid Cymru y Llywodraeth Lafur yng Nghymru dan arweinyddiaeth Eluned Morgan o “roi’r ffidl yn y to ar sefyll dros Gymru” er mwyn osgoi sefyllfa o embaras i’r Prif Weinidog, Sir Keir Starmer.
Yn ystod cynhadledd Plaid Cymru, bu’r pwyslais mawr ar etholiad Senedd Cymru fydd yn cael ei gynnal yn 2026 gan gyflwyno ei hun fel llywodraeth sy’n aros. Ychydig o amser yn ôl bu’r Blaid yn y Cymoedd ar gyfer “cynhadledd y Cymoedd” ym Mhontypridd wrth i arweinydd y blaid ddatgan eu bod yn “ffocysu tipyn ar y Cymoedd” er mwyn denu pleidleiswyr newydd i’r blaid.
cynhadledd y Cymoedd
Roedd agwedd gobeithiol ac angerdd y gynhadledd yn amlwg a’r momentwm yn uchel wrth i ni gamu i gyfnod gwleidyddol newydd yng Nghymru sydd yn arwain at yr etholiad ymhen dwy flynedd. Mae hyn yn dilyn llwyddiant y blaid yng nghymunedau Arfor, yn ennill pedair sedd yn etholiad Senedd y DU yn gynt eleni.
Ond, mae wedi cael ei bwysleisio yn ddiweddar am broblem fwyaf y blaid, sef a yw’r gallu ganddynt i ddenu Cymry di-Gymraeg i bleidleisio dros y blaid? Amser a ddengys a all Plaid Cymru symud o’r wedd o fod yn ‘Party for Welsh-Speakers’ i ‘Party of Wales’ yng ngwedd y pleidleiswyr sydd yn methu siarad yr iaith Gymraeg.

