Wrth i mi fynd i’r pwll nofio rwy’n ceisio peidio meddwl am neidio i’r pen dwfn diharebol wrth i fy arholiadau olaf agosau. Gall hyn swnio fel fy mod yn gwneud ffwdan am ddim byd — mae graddio misoedd i ffwrdd a dim ond newydd ddechrau’r flwyddyn rydym ni — ond i mi o leiaf, mae fy nghyfnod yn y brifysgol wedi hedfan ac erbyn hyn, mae’r panig yn dechrau taro.
Mae rhywun wedi dweud wrthom ni gyd i wneud y gora’ o’n hamser yn y brifysgol, boed hynny’n deulu neu’n ffrindiau sydd wedi graddio ers tro. Mae’n gyngor da ond mae’n agored iawn i’w ddehongli. Beth sydd yn mesur gwneud gorau o’r brifysgol? Oes modd ei grynhoi i fesur penodol fel nifer o VKs gafodd eu hyfed dros dair blynedd neu nifer o ddarlithoedd aethpwys iddyn nhw? Mae’n anodd pwyntio bys yn union ar y peth gan ei fod yn amlwg yn bwnc goddrychol ond mae’n rhaid i mi lenwi yr arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol eleni — yn bendant mae ychydig o elfennau mesuradwy.
Mae gadael prifysgol yn arwain at fywyd gwahanol iawn — bywyd graddedig gwaradwyddus. Dyw deffro am hanner dydd ddim yn hwyl fel yr oedd pan mae eich mam yn gweiddi arnoch chi o lawr grisiau yn annog arno chi i gael swydd. Dim mwy o nosweithiau Mercher pan rydych yn gorfod deffro am 7:30 i ddal y tren. Mae’n drawsnewid anymunol nad wyf yn meddwl sydd yn cael ei drafod digon. Mae tair mlynedd yn amser hir ac rydych yn datblygu ffordd o fyw sydd yn cael ei dynnu oddi arnoch chi ganol fis Mehefin. Dyna lle gall y panig gychwyn. Mae rhai yn cychwyn cwrs masters efallai na fyddent wedi meddwl amdanynt mewn nodau o gadw ffordd o fyw’r brifysgol yn fyw. Mae eraill yn newid cwrs yn gyfan gwbl ac yn dechrau eto.
I mi, mae dilyn cwrs penagored yn golygu bod y panig yn dod o ddim yn gwybod pa gyfeiriad i fynd. Mae llawer i mi droi i ffwrdd a dim llawer o amser i ddewis. Mae ceisiadau ôl-radd a cynlluniau graddedigion yn mynd a dod fel y gwynt. Ar ddiwedd y dydd mae’r brifysgol yn beth rydych chi’n ei wneud ohonno. Sut bynnag yr ydych yn ei fesur, chi sydd i benderfynnu. Os ydych chi’n teimlo’r panig sy’n gysylltiedig â’r drydedd flwyddyn, cysylltwch â ffrindiau a teulu — rwyf yn siwr y byddwch yn teimlo rhyddhad yn gwybod nad chi yn unig sy’n teimlo felly ac efallai y bydd y llwybr ychydig yn gliriach.

