Dros y penwythnos diwethaf, bu rhai o fyfyrwyr o Prifysgol Caerdydd yn cystadlu mewn amryw o gystadlaethau rhedeg.

Megan Williams yn cyflawni ei Marathon cyntaf:

Am y tro cyntaf erioed, gwnaeth Megan Williams, myfyriwr yn ei thrydedd blwyddyn brofi moment “bythgofiadwy” ym Marathon Caer. Llwyddodd hi i redeg pellter o 26.2 milltir mewn amser arbennig o 4 awr a 10 munud.

Dywedodd Megan fod “rhedeg yn ffordd i mi ddiffodd” a’i bod eisiau profi i’w hun ei bod yn gallu “cyflawni heriau”.

Ychwanegodd bod y rhyddhad o orffen y ras yn “deimlad anhygoel”, yn enwedig ar ôl i’r holl ymarfer dalu ei ffordd.

Nid ar chwarae bach mae modd cyflawni llwyddiant o’r fath, yn ôl ‘Runner’s World’, ar gyfartaledd mae paratoi eich corff i allu rhedeg pellter o’r fath yn cymryd hyd at 16-20 wythnos – amser eithriadol o hir sydd angen llawer o “gymhelliant, cysondeb a ffitrwydd.”

Yn ôl Megan roedd “cydbwyso gwaith, digwyddiadau’r haf a rhedeg y pellteroedd angenrheidiol oedd yn rhan o’r cynllun ymarfer yn heriol”, ond ychwanegodd ei bod hi wir wedi mwynhau’r holl brofiad.

Dwy fyfyrwraig yn teithio draw i Portiwgal ar gyfer SheUltra:

Cyflawnodd Efa Llew a Beca Hughes gamp a hanner draw ar arfordir Algarve ym Mhortiwgal yr un penwythnos yng nghystadleuaeth flynyddol SheUltra.

Pwrpas y digwyddiad ydy codi ymwybyddiaeth ac arian at elusennau cancr menywod, felly digwyddiad i ferched yn unig ydy hwn. Disgwylir i’r cystadleuwyr gwblhau pellter o 29.83 milltir, ond heb unrhyw derfyniadau amser, na pwysau i’w redeg.

Yn debyg i Megan, dywedodd Beca ei bod hi “awydd sialens” ac eisiau gweld beth oedd hi’n medru cyflawni. Ychwanegodd bod y cyfle i’w wneud mewn gwlad tramor gyda thywydd braf a golygfeydd anhygoel yn ei wneud yn brofiad mwy pleserus – ac yn esgus i gael gwyliau!

Doedd Beca erioed wedi rhedeg pellter mor hir o’r blaen, a cwblhaodd hi’r digwyddiad gyda’i Mham, ei chwaer a ffrindiau teulu. Dywedodd bod croesi’r llinell yn “ryddhad enfawr ac yn deimlad anhygoel, yn enwedig ar ôl y milltiroedd anodd olaf.”

Roedd ei pharatoadau hi yn “gymysgedd o gerdded a rhedeg pellteroedd hir”, a dywedodd nad oedd hi wedi dechrau ymarfer tan tua mis cyn y ras – tipyn o gamp felly oedd croesi’r llinell i orffen!

Llongyfarchiadau enfawr i’r dair – gan obeithio eich bod chi wedi gallu cael cyfle haeddiannol i ymlacio yn ystod yr wythnos ddiwethaf!

Beca ac Efa yng Nghystadleuaeth y SheUltra.
Beca ac Efa yng Nghystadleuaeth y SheUltra.Photograph: Beca Hughes