Croeso i Rifyn 1204 o Gair Rhydd.

Dyma ein rhifyn olaf y semester hwn ac am semester a hanner! Rydym wedi cael cymaint o straeon anhygoel yn llenwi ein tudalennau’r tymor hwn. O’n sylw i’r Wobr Iris i gyfweliad gyda Lee Walters, rydym wedi cael cymaint o erthyglau gwirioneddol wych eleni. Dyma ein rhifyn cyntaf ar-lein o Gair Rhydd eleni. Rydym wedi bod mor ffodus ein bod wedi cael tri rhifyn print eleni.

Student media members gathered around a table.

Mae’n teimlo’n rhyfedd fy mod i mor bell trwy fy nhrydedd flwyddyn yn barod. Mae Caerdydd wedi bod yn gartref i mi am y tair blynedd diwethaf, ac i ddweud y gwir, dydw i ddim eisiau gadael. Mae fy nghyfnod yn y brifysgol wedi hedfan a dydw i’n methu credu bod gen i lai na chwe mis ar ôl. Wrth feddwl am y dyfodol, rwy’n ansicr ble y byddaf yn y pen draw. Rwyf wastad wedi dweud y byddwn i wrth fy modd yn bod yn newyddiadurwr ac mae rhedeg Gair Rhydd wir wedi cadarnhau hwn i mi. Ar adegau, mae’n flinedig. Mae treulio oriau yn y swyddfa gyfryngau ddi-ffenestr, gadael y swyddfa yn hwyr yn y nos ar ôl terfyn amser print, ac Adobe Indesign ddim yn gweithio yn agweddau o fod yn Brif Olygydd sydd ddim yn ddeniadol. Fodd Bynnag, ni fyddwn i’n dymuno newid dim. Y mae’n wirioneddol wedi bod cyfnod gorau fy mhrofiad Prifysgol.

Mae hefyd gennym ni lawer o bethau cyffrous ar y gweill ar gyfer Gair Rhydd, megis y gwobrau SPA. Gan ein bod wedi ennill Cyhoeddiad Gorau ddwy flynedd yn olynol, rwy’n gobeithio y gallwn ni ennill eto am y trydydd tro. Eleni, gobeithio byddant yn cael eu cynnal mewn person felly byddwn ni gyd yn cael noson allan ar gyfer yr achlysur. Rydw i hefyd yn optimistaidd y gallwn ni gyrraedd y gwobrau SPA cenedlaethol eleni.

Printed pages of Gair Rhydd.

Yn y rhifyn ar-lein hwn, mae gennym ni gymaint o straeon diddorol. Prif uchafbwynt y rhifyn yw’r sylw i CCB Prifysgol Caerdydd. Mynychais i a grŵp o olygyddion y noson ble pasiwyd pedwar cynnig heb fawr o aflonyddwch, yn wahanol i’r llynedd.

A student holding an AGM voting card.

Rydym yn gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r rhifyn hwn ac y cewch chi wyliau Nadolig hyfryd!