Wrth i’r dyddiau fyrhau ac wrth i naws iasol gydio yn y ddinas, daw Caerdydd yn barod unwaith eto am Galan Gaeaf llawn gweithgareddau gwefreiddiol. Sdim ots beth yw eich diddordeb, mae yna lu o ddigwyddiadau i’ch cadw chi’n brysur dros yr wythnosau nesaf-peidiwch ag anghofio eich gwisg ffansi! Sinema danddaearol Calan Gaeaf Dyddiad — 31ain o Hydref Lleoliad — Castell Caerdydd Gall unrhyw un ddweud eu bod wedi gwylio ffilm mewn sinema o’r blaen, ond ydych chi erioed wedi gwylio ffilm o dan furiau hen gastell?
Dyma gyfle i fwynhau rhai o’ch hen ffefrynnau fel Ghostbusters, The Nightmare Before Christmas, a Hocus Pocus mewn amgylchedd hollol unigryw a newydd. The Summoning Immersive Horror Cinema Dyddiad — 29ain-31ain o Hydref Lleoliad — Portland House Opsiwn arall i’r rheini sydd wrth eu boddau o flaen y sgrin fawr yw teithio i’r bae i’r Summoning Immersive Horror Cinema. Nod Portland House yw i gyfoethogi eich profiad sinema arferol gydag actorion byw ac effeithiau arbennig brawychus—mae’n ddigon i godi arswyd ar unrhyw un!
Teithiau ysbrydion Dyddiad — 12fed- 23ain o Hydref Lleoliad — Sain Ffagan Os yw eistedd yn yr unfan yn gwylio ffilm yn rhy ddiflas i chi, beth am fentro draw i Sain Ffagan am daith erchyll o amgylch yr hen adeiladau hanesyddol? Cewch glywed straeon am gyfarfyddiadau ysbrydion yn yr amgueddfa, yn ogystal â chlywed am ofergoelion Cymreig am farwolaeth, galar, ac ysbrydion. Gellir hefyd gwneud cais am daith drwy gyfrwng y Gymraeg wrth gysylltu â Dark Wales Tours yn uniongyrchol.
Bingo Lingo Calan Gaeaf Dyddiad — 26ain o Hydref Lleoliad — Depot Peidiwch ag wfftio’r syniad o chwarae Bingo fel gweithgaredd ddiflas i fenywod ganol-oed – nid gem arferol o Bingo yw hon! Ewch i Depot am noson llawn diodydd dychrynllyd, gwisgoedd ffansi, a digonedd o hwyl a sbri. Efallai mai chi fydd un o’r unigolion lwcus i ddychwelyd adref gydag un o’u gwobrau gwallgof yn eich llaw!
Bottomless Brunch wrth wylio ffilm Beetlejuice Dyddiad — 26ain o Hydref Lleoliad — Lo Lounge Mwynhewch ddiodydd diddiwedd am 60 munud a phryd o fwyd stryd wrth gamu i fyd dychrynllyd Beetlejuice yn y Lo Lounge ar y 26ain o’r mis. A fyddwch chi’n ddigon dewr i aros am yr ôl-barti, neu a fydd yr arswyd yn ormod i chi? Does dim esgus ‘da chi i aros adref dros y cyfnod brawychus hwn—ewch i brynu’ch tocynnau nawr!
