Braf yw cael cerddoriaeth byw yn ôl yn ein bywydau ar ôl blynyddoedd o gyfyngiadau yn dilyn y pandemig. Does dim byd gwell na chanu gyda’ch ffrindiau a theulu… yn enwedig pan mae’r haul yn gwenu hefyd! Amlygir bod yr Haf yma yn addo i fod yn un llawn cerddoriaeth gyda sawl artist yn cyhoeddi eu bod nhw’n chwarae yn y brif ddinas eleni. Ceir llawer o gyfleoedd i wneud hynny yng Nghaerdydd dros yr Haf. Cyhoeddwyd yn ddiweddar fod Beyoncé yn dychwelyd i’r brif ddinas ym Mis Mai. Ar ôl 5 mlynedd ers ei pherfformiad diwethaf yma yn 2018, does dim amheuaeth fydd ei thaith o’r enw “Renaissance” yn gwerthu’n gyflym a sylwir ar y galw cynyddol am docynnau ar wefan “Ticketmaster”. Mae rhai tocynnau hyd yn oed yn gwerthu am bris rhyfeddol o £2000 ac nid yw’n syndod felly fod llawer o westai Caerdydd wedi llenwi yn barod. Yn dilyn hynny, bydd mis Mehefin yr un mor brysur gyda Coldplay yn chwarae yn stadiwm y Principality. Mae 4 miliwn o docynnau bellach wedi eu gwerthu am eu taith ryngwladol sydd yn galw yng Nghaerdydd ar y 6ed a 7fed o Fehefin. Canmolwyd gan lawer am eu sioe gynaliadwy wrth iddynt bweru y rhan fwyaf o’u sioeau gyda 100% ynni adnewyddadwy. Hefyd, maent yn plannu un goeden am bob tocyn y gwerthir, a phrofwyd i fod yn gynllun effeithlon o farchnata. Dau ddiwrnod ar ôl i Coldplay gyhoeddi’r gig, fe ddaeth cyhoeddiad y bydd Harry Styles hefyd yn perfformio yng Nghaerdydd ar y 20fed ac 21ain o’r mis. Aeth y canwr hoffus ar daith ryngwladol y llynedd o’r enw “Love on Tour” i ddinasoedd megis Manceinion a Llundain. Bu llawer o’r Cymry tu hwnt i gorneli’r wlad er mwyn ei weld yn canu’n fyw. Felly mae’n deg dweud fod cannoedd o’i gefnogwyr yn fwy na hapus ei fod yn dod i Gaerdydd eleni am y tro cyntaf. 21 mlynedd hir sydd wedi mynd heibio ers i Tom Jones perfformio fel prif ganwr yng Nghaerdydd. Ond yr haf yma, mae’r seibiant yn dod i ben! Mae’n canu yng nghastell Caerdydd ar y 21ain o Orffenaf o dan daith o’r enw “Ages and Stages”. Cyhoeddwyd ei fod yn frwdfrydig i ddiddanu’r ddinas unwaith eto, yn dilyn ei berfformiad llawn gyda Coldplay llynedd. Braf yw cael un o enwogion mwyaf poblogaidd Cymru nôl ar lwyfan am beth sydd yn addo i fod yn nigwyddiad i’w gofio. Felly ceir digon o siawns yr Haf hwn i fwynhau cerddoriaeth byw o dan yr haul!
Taf-Od
Haf o gerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd

Source: https://gairrhydd.com/article/article-draft-6b6439f0-2aa8-4568-b698-19688de1a127
