Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau diwygiadau i drwyddedi parcio i fyfyrwyr gan olygu mai dim ond un drwydded bydd yn cael ei roi i bob tŷ. Mae Martha Thomas yn fyfyriwr Addysg Gynradd ym Mhrifysgol Met Caerdydd ac yn galw ar Gyngor Caerdydd i “wrando ar fyfyrwyr a deall bod anghenion myfyrwyr hefyd yn bwysig” “Dwi’n teimlo’n nerfus o ran blwyddyn nesaf achos bod fy nghwrs yn golygu bod rhaid defnyddio car i fynd i ysgolion.” “O ran fi, mae angen i mi fynd ar ddiwrnodau ymarfer dysgu ar draws de Cymru sydd yn anodd iawn i gyrraedd heb gar.” Trafnidiaeth gyhoeddus “ddim digon da” “Mae’r car yn rhoi rhyddid i mi fynd adref yn rhwydd gan nad oes yna wasanaeth trên rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.” “Dydy trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd a Chymru ddim digon da i gyfiawnhau tynnu ceir myfyrwyr oddi wrthyn nhw.” “Gyda saith ohonom yn byw yn y tŷ mae’n mynd i fod yn anodd i gwtogi’r trwyddedi i un yn unig gyda phob un ohonom yn teithio i wahanol lefydd.” Un drwydded fydd hawl gan bob tŷ myfyrwyr ymgeisio amdani yn ôl y cynlluniau newydd. Maent hefyd yn datgan y bydd nifer o drwyddedi ymwelwyr ar gyfer myfyrwyr hanner y nifer mae gan breswylwyr yr hawl iddynt.

Bydd gan fyfyrwyr yr hawl i hyd at bedair trwydded y flwyddyn i bob tŷ ar gyfer symud i mewn ac allan o’u tai. Mewn cyfarfod cabinet ar ddydd Iau, y 16eg o Hydref, cytunodd y cynghorwyr i’r newidiadau oedd yn cynnwys: Cyfyngu trwyddedi parcio tai myfyrwyr i un i bob tŷ; Lleihau’r nifer o drwyddedi ymwelwyr i fyfyrwyr; Cynyddu ffi drwydded ar gyfer ceir mawr (SUV) Bydd y ddinas yn cael ei rhannu mewn i dair ardal wahanol; ardal y ddinas, yr ardal fewnol a’r ardal allanol. Yn ôl Cyngor Caerdydd, mae cerbydau mawr yn beryglus ac yn rhoi mwy o straen ar heolydd.

Yn ôl y Cynghorydd Cabinet dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, Dan De’ath, “nod Cynllun Parcio’r Ddinas yw cyfrannu at waith y ddinas yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd.” Ychwanegodd bod “rhaid gwneud penderfyniadau anodd i gydbwyso anghenion trigolion, busnesau, ymwelwyr a grwpiau sy’n agored i niwed.” Mae disgwyl i’r cynllun ddod i rym yn y ddinas yn raddol dros y degawd nesaf.