Gyda Gemau Olympaidd y Gaeaf newydd gael eu cynnal yn yr Eidal, mae cynrychiolaeth glir ac iach o Gymru wedi bod gydag athletwyr yn cystadlu’n bennaf mewn bobsleigh. Mae athletwyr Cymru wedi bod yn cystadlu dros Dîm Prydain Fawr ond hefyd dros genhedloedd eraill o bob cwr o’r byd.
Gan ddechrau gyda pherfformwraig nodedig i Dîm Prydain Fawr, mae Adele Nicoll o’r Trallwng, sydd hefyd yn gyn-fyfyrwraig ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn cynrychioli Cymru a Thîm Prydain Fawr yn cystadlu mewn amrywiaeth drawiadol o gemau fel taflu’r ergyd, lle mae hi’n sefyll fel pencampwr Prydain dair gwaith.
Mae hi hefyd wedi cystadlu mewn bobsleigh a thaflu disgen, gan ennill sawl twrnamaint yn y meysydd hynny.
Cafodd y fenyw 29 oed ei henwi hefyd fel y fenyw Brydeinig gyntaf i gystadlu yng nghystadleuaeth y monobob, sef bobsleigh y bôn, ond yn lle grŵp un athletwr sydd.
Ond bydd Nicoll hefyd yn bartner i Ashley Nelson yn y ddeuawd bobsleigh i fenywod, bydd hi hefyd yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf yn y Gemau Olympaidd eleni er gwaethaf teithio fel aelod wrth gefn yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf Beijing 2022.
Mae ei hamser fel arfer yn cael ei rannu rhwng bobsleigh ac athletau ac mae’n gobeithio gwneud enw iddi hi ei hun yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf eleni.
Hefyd yn cystadlu mewn bobsleigh mae Kya Placide, a aned yng Nghaerdydd, sydd yn ymddangos yn ei Gemau Olympaidd y Gaeaf cyntaf fel chwaraewr wrth gefn teithiol, er gwaethaf y ffaith mai dim ond yn 2023 y newidiodd i bobsleigh ar ôl cael ei pherswadio gan Adele Nicoll i newid a gwneud ei hymddangosiad cyntaf mewn bobsleigh yn Lillehammer ochr yn ochr ag Adele Nicoll yn fuan ar ôl camu i mewn i bobsleigh am y tro cyntaf wythnosau ynghynt.
Ei chanlyniad gorau hyd yn hyn mewn bobsleigh oedd yng Nghwpan y Byd Lake Placid yn 2024 ble enillodd arian gyda Nicoll.
Dechreuodd y fenyw 21 oed fel sbrintiwr ac mae wedi cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Dan Do Cymru yn 2023, gan ennill efydd yn y 60m.
Gan symud allan o Dîm Prydain Fawr, mae Mica Moore wedi newid i gynrychioli Jamaica yng Ngemau’r gaeaf hwn.
Cyrhaeddodd Moore y safle gorau erioed mewn bobsleigh Olympaidd i ferched gyda Thîm Prydain Fawr yng Ngemau PyeongChang 2018 ond newidiodd i Jamaica sef man geni ei neiniau a’i theidiau.
Mae Moore wedi disgrifio’r achlysur fel “anrhydedd aruthrol”.
Dychwelodd y chwaraewr 32 oed o seibiant 3 blynedd yng Nghwpan Ewrop yn Lillehammer ar ôl gadael rhaglen chwaraeon gaeaf Prydain yn 2022 ar ôl gweld “ymddygiad niweidiol a sarhaus” yn ôl y sôn.
Fodd bynnag, mae gan Moore lawer o gefnogwyr o Dîm Prydain Fawr a Jamaica sydd yn awyddus ac yn barod i weld sut mae eu hathletwr a’u cyn-athletwr yn perfformio.
Cafodd Gemau Olympaidd y Gaeaf eu darlledu gan y BBC, gyda’r gemau wedi gorffen ddydd Sul yr 22ain o Chwefror.
Roedd presenoldeb cyffrous o Gymru yng Ngemau eleni gyda gobaith o gynnydd mewn cyfranogiad o Gymru, beth bynnag, dyma’r amser i gefnogi ein hathletwyr Cymreig.

