Sut mae Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn mynd ati i warchod eu hiechyd meddwl? Ar ddydd Gwener y 10fed o Hydref roedd hi’n ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd – diwrnod rhyngwladol i godi ymwybyddiaeth am gyflyrau iechyd meddwl amrywiol ac i hyrwyddo pwysigrwydd gofalu am ein hiechyd meddwl ein hunain. Pob blwyddyn, mae thema’n cael ei benodi ac eleni cafodd y sylw ei hoelio ar ‘fynediad i wasanaethau iechyd meddwl yn ystod argyfyngau a thrychinebau.’ Mae ffyrdd amrywiol o ofalu am ein hiechyd meddwl ond, beth mae myfyrwyr y Brifysgol yn ei wneud er mwyn sicrhau eu bod yn blaenoriaethu eu hiechyd meddwl eu hunain?
Dyma beth oedd gan rhai o’n myfyrwyr i’w ddweud: “Rwy’n hoff o iawn o chwarae pêl rwyd ac mae cael y cyfle i wneud hynny sawl gwaith yn ystod yr wythnos yn un o’r prif bethau rwy’n blaenoriaethu er mwyn sicrhau fy mod i’n gwarchod fy iechyd meddwl. Rwy’n aelod o dîm Cymric ac yn hyfforddi a chwarae gyda nhw dwy waith yr wythnos a hefyd yn rhan o dîm y Gym- Gym. Mae’r elfen gystadleuol a chorfforol heb os yn un o’r prif ffactorau pam fod hyn yn fuddiol i’m iechyd meddwl gan fy mod i’n cael y cyfle i ffocysu ar rywbeth y tu hwnt i astudiaethau’r brifysgol.
Mae pa mor gymdeithasol yw’r ddau dîm hefyd yn sicr yn fuddiol gan ‘mod i nid yn unig yn cael y cyfle i sgwrsio’n gyffredinol gyda sawl un ond mae cael trafod un o’m prif ddiddordebau yn fodd o gynnal iechyd meddwl iachus. Buaswn i’n annog unrhyw un waeth beth yw eich gallu corfforol i fynd ati i gwblhau oleiaf un gweithgaredd ymarferol mewn wythnos, mae wir yn gwneud byd o wahaniaeth.” “Mae rhywbeth mor syml â threfnu i fynd am baned a sgwrs gyda ffrind yn rhywbeth yr wyf i’n ceisio blaenoriaethu o fewn fy wythnos. Er bod bywyd y brifysgol yn wych, gall fod yn anodd ymdopi gyda’r ffordd o fyw, y llwyth gwaith a bywyd mewn dinas yn gyffredinol o bryd i’w gilydd.
Dyna pam felly fod sicrhau awr neu ddwy boed ynghanol yr wythnos neu ar benwythnosau i ddal i fyny a rhoi’r byd yn ei le gyda ffrind yn ffordd syml ond effeithiol o ofalu am fy iechyd meddwl.” - Lili Gray. “Ers fy mlwyddyn gyntaf yn y Brifysgol rwyf wedi bod yn aelod o Aelwyd y Waun Ddyfal; aelwyd sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd ac yn croesawu aelodau rhwng 18 a 25 mlwydd oed. Mae canu’n gyffredinol yn fodd o warchod fy iechyd meddwl ond mae cael y cyfle i fynd allan o’r tŷ pob nos Fawrth a chymdeithasu yn gwneud lles mawr i mi. Gan fod yr aelwyd yn cynnal cyngherddau amrywiol ac yn cystadlu yn yr Eisteddfod mae’n ffordd o sicrhau fy mod i’n medru cadw mewn cysylltiad gyda fy nghydaelodau gydol y flwyddyn law yn llaw â gwneud yr hyn sy’n dod â mwynhad mawr i mi.” - Gruff Wyn.
Mae cael y cyfle i fynd allan o’r tŷ pob nos Fawrth a chymdeithasu yn gwneud lles mawr i mi
Os am dderbyn gwybodaeth bellach am ‘Ddiwrnod Rhyngwladol Iechyd Meddwl’ neu am iechyd meddwl yn gyffredinol, ewch i ymweld â: Mental Health Foundation (opens in a new tab) - mentalhealth. org.uk Mind Cymru (opens in a new tab) - www.mind.org.uk Y GIG (opens in a new tab) - www.nhs. uk/mental-health
