Mae hi bron a bod yn ddathliad (neu’n gofiant) eleni ers datblygiad Twitter i X, ddwy flynedd yn ôl. Ond faint o effaith cafodd y newid sylweddol yma ar y defnyddwyr?
Yn glir iawn, mae Elon Musk wedi newid llawer o agweddau ar y platfform yma, sydd wedi gwneud i bobl, yn enwedig ffigurau amlwg o fewn ein cymdeithas i adael X, neu leihau eu defnydd ohono.
Yn ddiweddar, mae platfformau fel ‘Reddit’ a ‘Quora’ wedi bod yn trafod ac yn ateb y cwestiwn, pa gyfryngau cymdeithasol sydd fwyaf niweidiol. Er mai Instagram a TikTok sy’n effeithio iechyd meddwl waethaf, ‘X’ sydd ar frig y drafodaeth am awyrgylch mwyaf tocsig ar lein. Pam fod hyn?
Dull ‘Chwyldroadol’ Musk – Llais Rhydd?
Un o fwriadau Musk wrth adnewyddu’r safle oedd cynyddu’r cyfle ar gyfer lleisio barn rydd. Yn amlwg mae hyn wedi cynyddu’r defnydd o gamdriniaeth ar y platfform a rhaniad camwybodaeth.
Camwybodaeth, bots a chamdriniaeth
Yn sicr mae cynnydd ym mhob ardal ar-lein o ddosbarthiad camwybodaeth, camdriniaeth a bots. Ond mae ‘X’ yn cael ei weld fel safle sy’n cael ei dargedu yn benodol gan y rhain, gyda llai o gyfyngiadau i gymharu gyda phlatfformau eraill. O ganlyniad i hyn mae nifer o academyddion a busnesau wedi ymadael â’r platfform oherwydd yr anffurfioldeb a’r camwybodaeth a allai gael eu cysylltu gyda’u cwmnïoedd nhw.
Rhesymau Moesegol
Yn sicr mae nifer o unigolion yn ymadael â’r platfform oherwydd rhesymau moesegol sydd gydag effeithiau hir dymor. Mae hyn i’w wneud â model ariannu’r platfform sydd yn elwa o ddosbarthiad camwybodaeth a hyd yn oed camdriniaeth. Dengys ffigurau gan y ‘Financial Times’ fod y nifer o ddefnyddwyr yn y DU wedi cwympo 1/3, tra bod y nifer o ddefnyddwyr o’r UDA wedi cwympo 1/5.
Ble mae’r defnyddwyr yn mynd yn lle?
Mae nifer o ddefnyddwyr yn dechrau troi at blatfformau newydd tebyg i ‘Bluesky’. Wedi ei frandio fel safle ‘meicroblogio’ sydd yn edrych yn debyg i’r hen ‘Twitter’. Er bod y platfform yn un newydd iawn (wedi ei lansio ym mis Chwefror 2024), mae’r platfform yn denu bron 800,000 o ddefnyddwyr yn ddyddiol!
Gall hyn fod yn broblem i obeithion Musk am ‘X’?
Mae’n ymddangos fod y safle traddodiadol yn ailymddangos fel brand newydd, sydd yn diogelu defnyddwyr a’r brand personol/busnes.
