Ym mis Hydref ‘leni, ymgasglodd llu o bobl yn y Tramshed yng Nghaerdydd i wylio’r band ‘Kneecap’ yn perfformio. Disgrifiwyd y gyngerdd yn “wych,” a “chyffrous” gan y rheini a fu’n bresennol, gydag un unigolyn yn nodi mai uchafbwynt y gyngerdd, iddo fe, oedd i’r DJ chwifio baner Owain Glyndŵr yn yr awyr ar ddechrau’r sioe. Ond pwy yw’r triawd yma, beth sy’n eu gwneud nhw’n unigryw, a pham fod Owain Glyndŵr yn arwyddocaol iddyn nhw?

O Ogledd Iwerddon yn wreiddiol, mae Mo Chara, DJ Próvaí a Móglaí Bap wedi ennill cefnogaeth gref ar draws y byd ers iddynt ffurfio yn 2017. Yn y Wyddeleg y cana’r grŵp hwn y rhan fwyaf o’r amser, ac mae eu hangerdd tuag at yr iaith, yn ogystal â’u credoau gwleidyddol, yn bynciau sy’n amlygu’n gyson yn eu caneuon.

Fel triawd a oedd wedi hen arfer â sgwrsio gyda’i gilydd yn y Wyddeleg, canu yn yr iaith honno oedd y dewis amlwg iddyn nhw. “Oedd ‘na lot o bobl yn dweud bydden ni byth yn llwyddo gan bo’ ni’n canu yn y Wyddeleg,” meddai Mo Chara, “Ond y gwir ydy mai’r ffaith bo’ ni’n canu’n y Wyddeleg ydy’r rheswm pam bod gymaint o ddrysau wedi agor i ni.”

Fel siaradwyr iaith leiafrifol, mynega’r tri edmygedd fawr aton ni’r Cymry am ein llwyddiant i ddiogelu ein hiaith. “Roedden ni’n gweld pa mor wrthryfelgar oedd y Cymry’n rhwygo arwyddion uniaith Saesneg i lawr, y gwaith oedd Cymdeithas yr iaith yn ei wneud” meddai DJ Próvaí.

Yn ôl y rhai a fu’n bresennol yn y gyngerdd, bu’r tri’n dangos eu parch o’r Cymry yn gyson wrth wneud “toutches neis tuag at ein hiaith ni,” fel wrth gyfarch y gynulleidfa â ‘shwmae’ cyn dechrau.

Bu’r Gwyddelod, hefyd, yn brwydro’n ddiflino dros ennill hawliau i’w hiaith, a chyflwynwyd addysg Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon am y tro cyntaf yn 1972 wedi iddynt ymladd drosto am flynyddoedd maith. Mae nifer wedi bod wrthi yn ceisio efelychu sefyllfa’r Gymraeg draw yn Iwerddon, trwy gynnal eu fersiwn eu hunain o’r Eisteddfod, a sefydlu TG4, sef y sianel deledu Wyddelig.

Dywed DJ Próvaí - “Erbyn hyn mae’r holl beth ‘di troi mewn cylch, ble roedd pobl yn cael eu curo ac efo cywilydd o’r Wyddeleg, bellach maen nhw’n ei defnyddio ac yn falch o’i siarad.”

“Roedd hi’n deimlad braf cael gweld band arall, sy’n hynod o fawr ar hyn o bryd yn ymfalchïo gymaint yn eu hiaith nhw,” meddai unigolyn a fu’n y gyngerdd, “odd e’n rhoi lot o obaith i fi fel siaradwr Cymraeg fod yna le nid yn unig yn y cyfryngau, ond hefyd yn y byd cerddoriaeth ar draws y byd i ieithoedd lleiafrifol.”

Felly, os fyddwch chi byth yn