Ddydd Gwener (24ain o Dachwedd) daeth y newyddion fod Prif Weithredwr S4C, Siân Doyle, wedi cael ei ddiswyddo. Daeth Awdurdod S4C i’r penderfyniad yn dilyn tystiolaeth adroddiad cwmni cyfreithiol Capital Law. Yn ôl S4C roedd diswyddo Sian Doyle yn ‘penderfyniad anodd ond unfrydol’.

Yn dilyn penderfyniad S4C i ddiswyddo Siân Doyle, cyhoeddod y cyn-brif weithredwr ddatganiad ei hun. Yn ôl Siân Doyle: ‘Cefais wybod am y penderfyniad mewn llythyr, a hynny heb rybudd a heb weld copi o ymchwiliad Capital Law na unrhyw dystiolaeth, heb gael cyfle i ymateb a heb reswm dilys y tu ôl i’r penderfyniad’.

Mae Capital Law yn ymchwilio i honiadau o fwlio a ‘diwylliant o ofn’ o fewn S4C. Ym mis Mai eleni, derbyniodd Newyddion S4C llythyr gan gyfrif e-bost anhysbys yn honni bod staff y sianel ‘yn aml yn cael eu dwyn i ddagrau’ ac ‘yn rhy ofnus i gyflwyno ei profiadau trwy’r broses arferol o gyflwyno cwynion’. Honna Siân Doyle iddi wynebu ‘triniaeth annheg a bwilio ehanghach’ gan y Cadeirydd Rhodri Williams ac ei bod yn ‘credu fod bod yn fenyw wedi bod yn factor sylweddol’ i’w thriniaeth yn dilyn y penderfyniad i’w ddiswyddo.

Dyma’r ail unigolyn i gael ei ddiswyddo gan S4C. Fis Hydref cafodd Llinos Griffin-Williams ei ddiswyddo o’i rôl fel Prif Swyddog Cynnwys S4C yn dilyn honiadau o ‘gamyddwyn difrifol’ yn Ffrainc yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd. Yn dilyn y cyhoeddiad, aeth Sian Doyle ar gyfnod i ffwrdd o’i gwaith oherwydd salwch.

Er i Siân Doyle gael ei ddiswyddo, dywedodd undeb darlledu Bectu fod ‘bwlio ac aflonyddu yn parhau yn broblem ddifrifol yn y diwydiannau creadigol’ er hyn, maent hefyd yn ‘edrych ymlaen at weithio gyda S4C i sicrhau diwylliant ble gall pawb deimlo’n hyderus ac wedi’u parchu yn y gweithle’