Dychwelodd y rhaglen Netflix boblogaidd Sex Education ar gyfer y bedwaredd gyfres dros yr wythnosau diwethaf - gyda 2.75 miliwn o bobl wedi gwylio’r bennod gyntaf yn yr wythnos hyd at 24ain o Fedi. Cafodd ail bennod y gyfres newydd ei gwylio gan 2.4 miliwn o bobl – gyda’r ystadegau hyn yn uwch na’r nifer a wyliodd y rhaglen boblogaidd At Home With The Fury’s a lansiwyd i gynulleidfa o 2.6 miliwn nôl ym mis Awst elni.
Lansiwyd y gyfres cyntaf o Sex Education nôl ym mis Ionawr 2019 gan y cynhyrchydd Jon Jennings. Mae’r rhaglen comedi-drama yn bennaf yn dilyn hynt a helynt cymeriadau yn eu harddegau yn ardal Moordale, megis Otis, Eric, Adam, Maeve ac Aimee, yn ogystal â cymeriadau eraill fel mam Otis, Jean, sydd yn cael ei phortreadu gan y talentog Gillian Anderson. Ar hyd y cyfnod o bedair gyfres, cawn ddilyn y cymeriadau wrth iddynt wynebu amrywiaeth o broblemau personnol sydd yn aml yn ymwneud â’u bywydau rhywiol.
Cafodd ail bennod y gyfres newydd ei gwylio gan 2.4 miliwn o bobl
Ond wyddoch chi fod gan Gymru fach gysylltiad â’r rhaglen deledu fawr hon? Defnyddir sawl lleoliad Cymreig ar hyd y blynyddoedd wrth ffilmio’r rhaglen Sex Education. Os edrychwch yn ofalus, mae modd adnabod lleoliadau godidog De Cymru, o Bier Pennarth, i goedwig Cwmbran yng Nghasnewydd. Erbyn y bedwaredd gyfres, defnyddir Amgueddfa Sain Ffagan yng Nghaerdydd fel coleg y chweched dosbarth newydd y cymeriadau wedi cau Ysgol Moordale. Mae Sir Fynwy’n ymddangos yn amlwg drwy gydol y gyfres, ac yn chwarae rhan allweddol yn stori cymeriad Eric. Gwelir Eric treulio llawer o amser ar Duke of Beaufort Iron Bridge yn ystod y bedwaredd gyfres.
Yn ôl Deon Du Preez, rheolwr goruchwylio lleoliadau Sex Education, fod yr ardaloedd ble maen nhw’n ffilmio yn bennaf yng Nghymru, yn cynnig cymaint o leoliadau. Dywedodd, “It’s a goldmine of oppurtunity! There aren’t many regions that have so much versatility and are within such a small area – from the wild valleys to Cardiff and in-between – you’ve got all these amazing suburbs with beautiful landscapes. The locations are definitely an important part of the look of Sex Education.”
Yw hi’n amser i Gymru fach serennu ar sgrîniau mawr netflix o’r diwedd?

