Ar noson o falchder a diwylliant, rhwng muriau Ysgol Glantaf, cododd adlais o farddoniaeth, canu ac actio wrth i gystadleuwyr gymryd i’r llwyfan yn Eisteddfod leol Caerdydd ar y 7fed o Chwefror. Roedd yr awyrgylch yn llawn brwdfrydedd, tystiolaeth fyw bod yr Eisteddfodau lleol dal i chwarae rhan flaenllaw ym mywydau pobl Cymru. Ond mewn cyfnod lle mae blaenoriaethau’n newid a’r byd yn symud yn gyflym, mae’n deg gofyn, a yw Eisteddfodau lleol mor hanfodol ag y cred rhai?
Mae’n anodd gwadu pwysigrwydd cynnal Eisteddfodau lleol, maent yn rhan annatod o’n treftadaeth ddiwylliannol, ac yn gweithredu fel pont rhwng ein gorffennol a’n dyfodol. Maent yn cynnig llwyfan i bobl o bob oed i arddangos eu doniau, boed hynny trwy chwarae offeryn, dawnsio, canu, barddoni neu actio. Nid yn unig yw hyn yn helpu datblygu sgiliau unigol, ond hefyd helpu meithrin balchder yn ein hunaniaeth genedlaethol a’n hiaith. Mewn byd lle mae dylanwad diwylliannau eraill yn gryf, mae’n bwysig parhau i gofio am rhai ni ein hun. Mae cynnal digwyddiadau fel Eisteddfodau lleol yn cryfhau’r sylfeini sy’n cadw ein traddodiadau’n fyw.
Mae Eisteddfodau lleol yn cryfhau cymunedau drwy ddod â phobl ynghyd, meithrin perthnasoedd a chreu ymdeimlad o berthyn. Mewn cyfnod lle mae unigrwydd yn bryder cynyddol, mae’r cyfleoedd i gystadlu a rhannu profiadau ag eraill yn werthfawr. Maent hefyd yn ysbrydoli pobl ifanc i ddatblygu sgiliau megis siarad cyhoeddus, gwaith tîm a hyder, rhinweddau hanfodol sy’n eu paratoi ar gyfer y dyfodol. I lawer o berfformwyr Cymreig, dyma’r cam cyntaf iddynt feistroli eu crefft. Mae’n gyfle gwych felly fel cefnogaeth i dalentau newydd y dyfodol.
Yn naturiol, mae rhai yn dadlau bod yr amser, yr ymdrech a’r arian yn well eu gwario ar wasanaethau hanfodol. Er, mae’n bwysig cofio nad yw’r ddadl hon yn cydnabod gwerth cudd Eisteddfodau lleol, megis ei chyfraniad i’r economi trwy ddenu ymwelwyr a chynyddu’r gwariant yn y gymuned.
Gyda llwyddiant Eisteddfod Caerdydd dal ar ein meddwl, mae’n amser da i fyfyrio pam bod Eisteddfodau lleol mor werthfawr. Os ydym am sicrhau bod ein treftadaeth yn parhau i ffynnu a bod ein cymunedau’n gryf, yna mae angen i ni barhau i’w cefnogi. Nid yw’n fater rhwng cefnogi traddodiad neu fuddsoddi mewn anghenion cyfoes. Mae’n fater o gydnabod bod y ddau yn gysylltiedig, a’u heffaith cadarnhaol ar ddyfodol ein cymdeithas.
