Rhwng y 10fed a’r 19eg o Fawrth mae wythnos Gwyddoniaeth yn cael ei dathlu ar draws Prydain. Ar ôl i ni wynebu cyfnodau hir o ynysu oherwydd Covid-19,y thema eleni bydd cysylltiadau.

Mae’r wythnos yn cael ei dathlu yn fynyddol, gyda’r tair diwethaf yn dilyn y themâu ‘Tyfiant,’ ‘arloesi ar gyfer y dyfodol,’ ac ‘ein planed amrywiol.’

Beth yw’r wythnos dathlu Gyddoniaeth ym Mhrydain?

Rheda’r 10 diwrnod gan Gymdeithas Gwyddoniaeth Prydain er mwyn dathlu Gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Mae’n cael ei dathlu ar draws y DU trwy ddigwyddiadau ar gyfer amrywiaeth o oedrannau a phobl.

Mae’r wythnos yn darparu llwyfan i ysgogi athrawon, gweithwyr proffesiynol STEM, cyfathrebwyr gwyddoniaeth a’r cyhoedd i gynhyrchu a chymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau STEM.

Mae’r sefydliad yn darparu pecynnau gweithgareddau ac adnoddau cymorth i unrhyw un sydd eisiau trefnu digwyddiad

Ymgyrch chwalu ystrydebau dros gyfryngau cymdeithasol

Trwy’r ymgyrch #SmashingStereotypes (chwalu ystrydebau) mae’r wythnos hefyd yn gweithredu dros chwalu ystrydebau hirsefydlog trwy gasgliad o dros 40 o broffiliau i annog mwy o bobl ifanc, o bob cefndir i weld eu hunain yn wyddonwyr.

Mae’r proffiliau yn arddangos straeon o unigolion a thimoedd, er mwyn newid canfyddiadau o bobl gyda gyrfaoedd yn STEM, gan gynnwys:

Troi’r angerdd o chwarae gemau fideo mewn i yrfa, Seyed Nasrollahi,

Arloesi pŵer di-carbon, Lauren Doyle,

Llwybr anghonfensiynol o ddod o hyd i yrfa yn STEM, Donna Gowland,

A nifer mwy. I weld mwy am hyn gellir edrych ar y gyfres o ffilmiau byr ar Youtube.

Mae’r ymgyrch yn galw i bobl dangos sut maen nhw’n chwalu ystrydebau trwy arddangos beth yw eu swyddi, ac arddangos sut maen nhw’n chwalu’r ystrydebau trwy ddefnyddio’r hashnod.

Am mwy o wybodaeth ar yr ymgyrch mae yna pecyn cymorth digidol sy’n cynnwys asedau i lawrlwytho a phosau cyfryngau cymdeithasol enghreifftiol ar gyfer unigolion a sefydliadau.

Beth sy’n digwydd?

Dros y DU mae yna nifer o ddigwyddiadau i bawb. I weld beth sy’n digwydd yn eich ardal mae’r wefan ‘Science live’ cynnwys popeth.

Mae Prifysgol De Cymru yn cynnal cyfres o ddarlithoedd ar-lein yn ystod amseroedd cinio yn cwmpasu gyrfaoedd STEM, sut i gael gyrfa yn y byd meddygol, addasu i newid hinsawdd, a nifer mwy.

I blant iau, 3-14 oed mae yna hefyd cystadleuaeth poster sy’n cau ar gyfer cynhigion ar y 31ain o Fawrth, gyda’r ennillwr yn medru ennil gwobr.