Wrth i Eisteddfod yr Urdd nesáu unwaith eto, mae’n ddiddorol gweld cynifer o fyfyrwyr Cymru yn troi at ganu corawl. Mae’r cythraul canu wedi cipio brwdfrydedd ein cenhedlaeth ni ac roedd Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd eleni yn dyst i hynny gyda chorau lu o bob prifysgol: Bangor, Abertawe, Aberystwyth a Chaerdydd yn codi eu lleisiau ac yn cystadlu’n frwd yn erbyn ei gilydd. Bellach yng Nghaerdydd, mae tri chôr ar gyfer pobl ifanc: Côr Aelwyd y Waun Ddyfal, Côr Ifor Bach a Taflais.

Mae’r ffaith bod gymaint o opsiynau a chyfleoedd yn bodoli yn dangos bod canu corawl yn parhau fel traddodiad byw ond hefyd yn rym cymdeithasol ymhlith pobl ifanc. Mae’r traddodiad, wrth gwrs, yn un sydd â gwreiddiau dwfn. Ers y 18fed ganrif, mae canu corawl wedi bod yn rhan annatod o gymunedau yng Nghymru ac yn arwydd o hunaniaeth genedlaethol.

Blynyddoedd yn ôl, daeth cymanfaoedd canu a chanu emynau yn rhan ganolog o fywyd cymunedol, a daeth yr arfer o bobl yn dod ynghyd i ganu yn un rheolaidd. Yn raddol, tyfodd y traddodiad y tu hwnt i gapeli, i gystadlaethau fel yr Eisteddfod a bellach, gwelwn y traddodiad yn blaguro ymysg myfyrwyr prifysgolion Cymru. I lawer o fyfyrwyr, mae’r profiad o fod yn rhan o gôr yn fwy na chanu.

Dywedodd Gwenno Davies, myfyrwraig yn ei thrydedd flwyddyn ac aelod o Gôr y Waun Ddyfal: “Odd y penderfyniad i ymuno â’r Waun Ddyfal yn hollol amlwg i fi. O’n i’n canu gytre gyda’r ysgol a’r aelwyd felly odd e’n naturiol i fi gario ymlaen i ganu yn y brifysgol. Ond i fod yn onest, yr ochr gymdeithasol sy’n denu fi at y côr.

Yn Aelwyd y Waun Ddyfal, ma’ fe wir yn teimlo fel bo’ ni’n un teulu bach.” I Gwenno, mae’r côr wedi bod yn flas o normalrwydd iddi mewn dinas newydd: “Ma’n rhoi rhyw flas o fyd gytre i fi. O’n i’n canu lot gytre ac ma’r agwedd yna o fywyd ‘di gallu aros yn gyson gyda fi wrth symud i brifysgol yng Nghaerdydd. Fi ddim yn credu fydden i’n teimlo mor gartrefol fan hyn heblaw am y côr.” Mae’r Eisteddfod, boed yr Urdd, Genedlaethol neu’r Rhyng-golegol yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal ac adnewyddu’r traddodiad corawl.

Bob blwyddyn, mae’r amrywiaeth o gystadlaethau corawl o gorau ieuenctid i gerdd dant, o gorau merched i gorau sioe yn cynnig mwy na chyfle i ganu; mae’n cynnig cymuned, hunaniaeth a man i bobl ifanc ddod at ei gilydd. Eleni, bydd dros 70 o fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd yn teithio i Ynys Môn gydag Aelwyd y Waun Ddyfal sy’n arwydd clir fod y traddodiad yn fyw ac yn ffynnu. Ac wrth i ni, y genhedlaeth newydd, gymryd awenau’r traddodiad corawl yng Nghymru - gallwn ddathlu â balchder mai Gwlad y Gân yw hi o hyd!