Un o uchafbwyntiau calendr y Cymry ifanc yw Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac eleni mae’n dychwelyd i Dde Cymru. Dyma fydd yr wythfed tro i’r Eisteddfod ymweld â Sir Gaerfyrddin ond fe’i cynhelir yn Llanymddyfri am y tro cyntaf erioed eleni. Yn ôl gwefan yr Eisteddfod, yr ymweliad cyntaf â’r sir oedd ‘yn nhref Caerfyrddin yn 1935 a’r ymweliadau mwyaf diweddar oedd Eisteddfod Sir Gâr yn 2007 ac Eisteddfod Cwm Gwendraeth 1989.’

Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru ym 1922 gan Syr Ifan ab Owen Edwards a chynhaliwyd yr Eisteddfod yr Urdd gyntaf yng Nghorwen ym 1929. Erbyn heddiw, mae gan yr Urdd dros 55,000 o aelodau ac oddeutu 40,000 yn cystadlu mewn Eisteddfodau Cylch a Rhanbarthol gyda’r gorau yn mynd ymlaen i gynrychioli eu Siroedd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae’r ŵyl, sy’n cael ei chynnal yn flynyddol dros wythnos y Sulgwyn, yn denu tua 90,000 o ymwelwyr yn flynyddol a 15,000 o gystadleuwyr sydd o dan 25 oed.

Fe fydd Aelwyd y Waun Ddyfal yn cystadlu yn yr Eisteddfod unwaith eto eleni. Mae’r Aelwyd wedi’i rhedeg gan fyfyrwyr i fyfyrwyr ac yn ymarfer yn wythnosol yn Eglwys y Crwys, Caerdydd. Eleni bydd yr Aelwyd yn cystadlu yn y Côr Mawr (dros 40 mewn nifer), Côr Bach (o dan 40 mewn nifer), y Parti Merched, Parti Bechgyn, Parti Llefaru, Parti Cerdd Dant a Grŵp Cerdd Dant.

Fe brofodd yr Aelwyd gryn lwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Ddinbych y llynedd gan gyrraedd y tri uchaf mewn nifer o gystadlaethau a dod i’r brig gyda’r Parti Bechgyn a’r Grŵp Cerdd Dant. Mae’r côr eisoes yn prysur ymarfer at Lanymddyfri.

Mae Annell Dyfri, sy’n wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, yn fyfyrwraig ôl-raddedig ar y cwrs Newyddiaduraeth Darlledu ac yn arweinydd yn yr Aelwyd. Dywed:

“Dw i’n un o arweinyddion y côr yn Aelwyd y Waun Ddyfal a dw i’n arwain y côr Mawr (dros 40 o aelodau) yn ogystal â dysgu’r parti cerdd dant ar gyfer yr Eisteddfod eleni. Dw i’n edrych ymlaen at gystadlu yn Sir Gâr, y sir lle cefais fy magu, a dw i’n edrych ymlaen at berfformio gyda’r côr am y tro olaf eleni. Er bod yr ymarferion yn gallu bod yn hir, dw i’n ffyddiog bydd y corau yn gwneud eu gorau ac yn mwynhau’r profiad o gystadlu yn yr Urdd. Mae’n braf cael criw newydd yn flynyddol yn y côr a dw i’n edrych ymlaen at gystadlu yn Llanymddyfri.”

Ifan Beech yw ysgrifennydd pwyllgor Aelwyd y Waun Ddyfal eleni. Meddai:

“Rydym ni fel aelwyd yn edrych ymlaen yn fawr at gystadlu yn yr Urdd eleni, ac fel ysgrifennydd, rwyf yn hyderus iawn y byddwn ni fel côr yn gwneud ein gorau glas unwaith eto eleni.