Wedi ei dathlu’n fyd-eang ar Fawrth 8fed, mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn gyfle i adnabod cyflawniadau menywod ar draws gymdeithas. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae menywod wedi serennu, gan gynnwys o fewn y maes chwaraeon.

England women’s football players gathered on a pitch.
Gwyliodd dros 300 miliwn o bobl Ewros y menywod.Image: Liondartois(via Wikimedia Commons)

O gem bocsio hanesyddol Savannah Marshall ac Claressa Shields i’r Rhosod yn cyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd Rygbi, mae’r nifer o wylwyr chwaraeon merched yn cynyddu, gyda sawl yn eu gwylio am y tro gyntaf erioed. Wnaeth Ewros y menywod dal sylw Ewrop ac tu-hwnt yn 2022, gyda chynulleidfa byd eang o 365 miliwn. Wnaeth 50 miliwn gwylio tra enillodd y Llewod dros yr Almaen yn y ffeinal, dros dair gwaith y nifer a wyliodd y ffeinal 2017. Mae’r foment fythgofiadwy yn gyfrifol am ysbrydoli fwy o enethod nac erioed troi llaw i’r gamp, gyda 100,000 fwy o ferched ifanc yn chwarae pêl-droed yn Lloegr I’w gymharu â phum mlynedd yn ôl.

Tra themâu Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2023 yw #EmbraceEquity, yw cydraddoldeb gwirioneddol yn cael ei gyflawni yn y byd chwaraeon? Gaeaf yma, gohiriwyd sawl gem pêl-droed menywod yn y WSL oherwydd caeau wedi rhewi, tra oedd timau dynion yr un clybiau yn gallu parhau heb bron dim problem. Ar Drydar, dywedodd Beth Mead, chwaraewraig Lloegr ac Arsenal: ‘Un o cynghreiriau uchaf Ewrop ac rydym yn canslo gemau oherwydd caeau wedi’u rhewi. Ddim digon da, mae gem y menywod yn mynd yn y cyfeiriad iawn ond mae dal ffordd bell i fynd”.

Mae athletwreigiau hefyd wedi codi ymwybyddiaeth dros yr heriau ychwanegol sydd yn amharu ar eu perfformiad a beth sydd angen ei wneud i gyflawni cydraddoldeb o fewn chwaraeon. Yn yr haf, datgelodd y rhedwraig Dina Asher-Smith mai crampiau mislif oedd yn gyfrifol am rwystro ei llwyddiant yn y ras 100m yn bencampwriaeth Ewrop. Ysodd ar y llywodraeth a chyrff rheoleiddio chwaraeon i fuddsoddi mwy o amser ac arian i ymchwil yng nghylch y berthynas rhwng y mislif a pherfformiad chwaraeon.

Er esiamplau o annhegwch, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi gweld newidiadau cadarnhaol. Yn fis Ionawr, cyhoeddodd Cymdeithas Pêl-droed Cymru fod chwaraewyr y timau dynion a merched am dderbyn tal hafal am y tro gyntaf. Mae rygbi menywod Iwerddon hefyd wedi newid eu cit, yn cyfnewid siorts glas am rhai gwyn er mwyn ceisio gwneud eu chwaraewyr teimlo’n fwy cyfforddus wrth chwarae ar eu mislif.

Mae deiseb wedi ei chychwyn er mwyn gwneud gwres dan-ddaear yn orfodol yn yr WSL ond dim ond amser bydd yn datgelu os fydd hwn, a sawl problem arall yn cael ei datrys erbyn 2024.