Mae cwmni Green Gen Cymru yn bwriadu adeiladu rhwydwaith o beilonau ar hyd a lled Cymru i gysylltu ffermydd gwynt â’r Grid Cenedlaethol. Fodd bynnag, mae nifer yn gwrthwynebu’r cynlluniau. Ymddangosodd deg o dirfeddianwyr ar hyd llinell y peilonau o flaen Llys Ynadon Llanelli yn ystod mis Mawrth ac Ebrill gan eu bod yn gwrthod mynediad i arolygwyr Green Gen Cymru.
Daeth Green Gen Cymru i gytundeb â’r tirfeddianwyr i ganiatáu mynediad. Wnaeth Green Gen Cymru ddim hawlio costau cyfreithiol oddi ar y tirfeddianwyr gan rybuddio na fydd hyn yn digwydd mewn achosion yn y dyfodol. Mae Green Gen Cymru yn gwmni sydd yn rhan o ‘Independent Networks Association’ sydd yn cynnwys 15 o gwmnïoedd isadeiledd ynni ar draws Cymru a Lloegr.

Mae Green Gen Cymru yn rhedeg ar golled o dros £8.5 miliwn yn 2024. Bwriad y cwmni yw adeiladu rhesi o beilonau yng ngorllewin, dwyrain a gogledd-ddwyrain Cymru. Enw ar y llinell yng Ngorllewin Cymru yw Towy Teifi sydd yn cysylltu fferm wynt ger Llanddewi Brefi (Ceredigion) ag is-orsaf yn Llandyfaelog (Sir Gaerfyrddin).
Mae cartref Taidgh Mullins sydd yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd yng nghysgod y peilonau arfaethedig. Wrth siarad â Gair Rhydd dywedodd nad oes “refeniw gwirioneddol i gymunedau lleol, ond colled o safle twristiaeth anhygoel.” “Yr unig bobl sy’n elwa o hyn yw’r elîtaidd, yn difetha ein tiroedd am eu pocedi – ond y tro hwn, trwy ofn a thrachwant, nid Llywodraeth estron, ond ein Llywodraeth ni sy’n ail-greu Tryweryn” meddai. Yn ôl Green Gen Cymru, maent wedi newid llwybr y peilonau yn dilyn yr ymgynghoriad cyntaf ac am sefydlu cronfa er budd cymunedau.

Dywedodd llefarydd ar ran Green Gen Cymru bod “seilwaith trydanol a’r gweithgareddau hyn yn cydfodoli mewn llawer o lefydd.” Mae Iwan Bryer yn fyfyriwr yng Nghaerdydd ac yn frodor o’r ardal lle lleolir isorsaf y Grid Cenedlaethol. Credai Iwan y dylid blaenoriaethu tanddaearu’r ceblau yn hytrach na chodi peilonau, “byddai plannu ceblau trydan tan-ddaear yn ffordd well, ac yn un realistig er mwyn amddiffyn y golygfeydd, a thir ffermwyr.” “Er bod ‘na gytundeb wedi’i sefydlu i blannu’r ceblau tan-ddaear drwy Lanarthne am rhai milltiroedd, profa hyn fod Green Gen Cymru yn medru fforddio costau tanddaearu. Dylsir ymestyn y syniad o danddaearu i’r cynllun cyfan.
Rwy’n falch fod cymuned glòs Llanarthne yn ymladd yn erbyn y peilonau yma, ac yn protestio’r achosion llys yn erbyn ffermwyr lleol.” Plannodd Cymru goed ‘a pheilonau cadarn’ yn ôl y bardd Gerallt Lloyd Owen a pharhau mae’r frwydr yng nghefn gwlad Cymru rhwng trigolion a chwmnïoedd m a w r sydd y n c re d u mai y n g nghefn gwlad mae ateb Cymru i newid hinsawdd.
