Ymgasglodd dros 25,000 o redwyr yng nghanol dinas Caerdydd ar ddydd Sul y 4ydd o Hydref wrth i’r hanner marathon ddominydu’r brifddinas am y 23ain tro. Dechreuodd y ras sy’n ymestyn 13.1 milltir tu fas i Gastell Caerdydd, gyda’r ffordd yn mynd a rhedwyr lawr i’r bae ac yna lan i Barc y Rhath cyn gorffen tu fas i Neuadd y Ddinas.

Yn ogystal â’r rhedwyr, ymgasglodd miloedd o gefnogwyr ar hyd strydoedd y ddinas wrth i deuluoedd, ffrindiau a thrigolion lleol gefnogi rhedwyr ar hyd y ffordd. Mae disgwyl i’r ras godi swm o dros £4 miliwn tuag at elusennau ac achosion da. Cafodd record cwrs y menywod ei thorri gan Joyciline Jepkosgei o Kenya wrth iddi hi ennill gydag amser o 1:05:40, a Gideon Kiprotich o Kenya enillodd ras y dynion gydag amser o 59:34.

Cwblhaodd nifer o eiconau Cymreig y ras, gydag enwau mawr o’r byd chwaraeon fel y cyn-chwaraewr pêl-droed Aaron Ramsey a’r cyn-chwaraewyr rygbi Shane Williams ac Adam Jones yn cymryd rhan. Fe wnaeth rhai o gyflwynwyr cyfarwydd S4C hefyd gymryd rhan, gydag Angharad Mair yn llwyddo i dorri record Brydeinig menywod dros 65 oed, a Heledd Cynwal yn rhedeg ochr yn ochr gyda’i thad a oedd yn rasio am y tro olaf yn 80 mlwydd oed.

Bu nifer o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn rhedeg yr hanner marathon hefyd, gan gynnwys Swyn Dafydd a Steff Davies. Dywedodd Swyn, sy’n astudio’r Gyfraith a’r Gymraeg: “Odd e’n brofiad amesing - hwn yw’r ail flwyddyn i fi gymryd rhan yn yr hanner marathon, a ma’r awyrgylch di bod yn wych ac mor gefnogol y ddau dro!”

Dywedodd ei bod hi wedi “Codi arian tuag at Am biwlans Awyr Cymru” eleni, a hefyd wedi rhedeg er mwyn “mwynhau’r profiad”.

Ychwanegodd, “Gan bo’ fi’n troi’n 21 mis yma, o ni’n meddwl bod e’n gyfle da i redeg 21km i droi’n 21!”

Rhedeg yn gystadleuol oedd Steff beth bynnag, wrth iddo geisio gosod PB newydd yn ystod y ras. Dywedodd Steff, sy’n astudio gwleidyddiaeth:

“Odd e’n brofiad arbennig iawn, llawer o ryddhad wrth groesi’r llinell. Fy nod oedd ceisio rhedeg mor gyflym â phosib gan redeg dros fy nghlwb rhedeg - Harriers Caerfyrddin.”

Fel nifer o deuluoedd eraill mae’n siŵr, dywedodd Steff bod aelodau o’i deulu wedi rhedeg gyda fe hefyd, gyda’i dad a’i chwaer yn cwblhau’r hanner marathon.

Er y bwrlwm a’r dathlu, newyddion trist oedd yn hawlio’r penawdau wythnos yma wrth i Run 4 Wales gadarnhau bod person wedi marw yn ystod y digwyddiad.

Gyda’r digwyddiad yn parhau i dyfu, gan ddenu miloedd o gefnogwyr a rhai o redwyr gorau’r byd, mae’n amser cyffrous i fyfyrwyr yn y ddinas sy’n awyddus i gymryd rhan. Mae’r balot ar gyfer hanner marathon blwyddyn nesaf bellach ar agor, felly os ydych chi’n ystyried rhedeg yn gystadleuol neu ar gyfer achos da, ewch amdani!

Swyn Dafydd (4ydd o'r chwith) gyda'i chefnogwyr.
Swyn Dafydd (4ydd o'r chwith) gyda'i chefnogwyr.Photograph: Swyn Dafydd