Ym mis Chwefror eleni, gwelodd Stadiwm y Principality y nifer leiaf o bobl erioed yn y dorf ar gyfer gêm Chwe Gwlad, gydag ond 57,744 o bobl yn troi lan i wylio Cymru yn colli yn erbyn Ffrainc. Misoedd yn ddiweddarach, mae’n ymddangos nad oes unrhyw beth wedi newid, gyda degau o filoedd o docynnau ar gyfer gemau Cyfres yr Hydref yn dal ar werth.

Bydd tîm Steve Tandy yn croesawu Siapan, Seland Newydd ac Awstralia i’r brif ddinas trwy gydol mis Tachwedd, gyda’r gêm olaf allan o’r tri yn erbyn Awstralia yn dechrau am 8:10yh ar Ddydd Sadwrn yr 21ain. Dyma’r gic gyntaf hwyraf erioed ar Ddydd Sadwrn yn hanes rygbi Cymru.

Dros y blynyddoedd mae nifer o gefnogwyr wedi cwyno am ddechreuadau hwyr i gemau, gyda chefnogwyr meddw ar ôl yfed trwy’r dydd, diffyg trafnidiaeth nôl gartref ac awyrgylch fflat yn y stadiwm ymhlith y cwynion. O ystyried hynny, nid yw’n syndod bod mwy o docynnau ar ôl ar gyfer y gêm hon nag ar gyfer y ddau arall.

Mewn ymdrech i werthu’r tocynnau, rhoddodd Undeb Rygbi Cymru docynnau ar werth i fyfyrwyr am ddim ond £10 ar ddechrau mis Hydref. Gyda’r Stickmen Project yn perfformio eu cerddoriaeth electronig yn ystod hanner amser a sioe oleuadau yn cymryd lle, dywedodd yr Undeb mewn datganiad y bydd “awyrgylch parti a ddylai apelio’n uniongyrchol at fyfyrwyr, yn ogystal ag unrhyw un sy’n chwilio am noson wych allan yng Nghaerdydd.”

Tra bod y cyfle i fynd i weld y tîm cenedlaethol yn chwarae am bris mor fforddiadwy yn beth cadarnhaol i rai myfyrwyr efallai, mae’r darlun ehangach yn adlewyrchu’r argyfwng mae rygbi yng Nghymru yn ei wynebu. Yn ogystal â’r gêm yn erbyn Awstralia, mae yna filoedd o docynnau yn dal ar werth ar gyfer gemau Seland Newydd a Siapan, gyda thocynnau ar gael i fyfyrwyr am ddim ond £10 ar gyfer gêm Siapan hefyd erbyn hyn.

Mae’n ddigon hawdd deall y sefyllfa wrth edrych ar dirwedd ehangach rygbi Cymru ar hyn o bryd. Mae perfformiad y tîm ar y cae ers Cwpan y Byd 2023 wedi bod yn drychinebus, gyda’r crysau cochion yn mynd ar rediad o 18 colled yn olynol rhwng 2023 a 2025. Ers penodiad Steve Tandy, mae canlyniadau ar y cae wedi gwella’n weddol, ond mae’r dirywiad mewn perfformiad yn sicr wedi cael effaith ar faint y dorf.

Mae materion oddi ar y cae hefyd wedi mynd o ddrwg i waeth. Gyda’r Undeb yn cyhoeddi colled o £18m dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’n edrych yn anochel y byddan nhw’n parhau gyda’u cynlluniau i dorri nifer y rhanbarthau o bedwar i dri. Mae penderfynoldeb yr Undeb i gael gwared ar naill ai’r Scarlets neu’r Gweilch yn ystod y broses yma wedi troi cymunedau cyfan yn eu herbyn, a hyn oll ar ôl datgan yn 2024 taw cadw’r pedwar rhanbarth oedd y bwriad.

Ac yna mae’r awyrgylch yn y stadiwm ei hun. Mae’r traddodiadau hynny sydd wedi gweu rygbi i mewn i’n hunaniaeth a’n diwylliant wedi diflannu bron yn gyfan gwbl erbyn hyn. Prin yw clywed emynau’r corau meibion, caneuon Max Boyce a dehongliadau pwerus o Galon Lân yn atseinio trwy’r stadiwm. Bon Jovi, Guns N’ Roses a remix electronig o Sosban Fach gan y Stickmen sydd i’w clywed heddiw.

Wrth ysgrifennu i DragonSports (opens in a new tab), disgrifiodd Stephen Jones ei sioc wrth weld 50 tocyn ar werth drws nesaf i’w gilydd ar gyfer y gêm yn erbyn Seland Newydd: “A ticket for a home Welsh game was gold dust… There was a time when you’d have to sell 50 grandmothers for that.”

Yn ffodus i’r rheini o Brifysgolion Caerdydd sy’n awyddus am noson mas mewn crys coch, mae’r dyddiau yna bell yn y gorffennol. Ond, i ni sy’n gweld rygbi fel rhan ganolog o’n hunaniaeth, diwylliant a Chymreictod, dim ond atgof arall ydyw o ba mor ddifrifol yw sefyllfa ein gêm genedlaethol.