Croeso nôl i Tarddiad ein Traddodiad! Gyda dechrau’r flwyddyn yn barod wedi bod, a’r gwyliau Nadolig wedi dod i ben, mae’n teimlo’n iawn i drafod un chwedl yn benodol. Gyda Dydd Santes Dwynwen ar y 25 o Ionawr, mae’n teimlo’n gywir i ddarganfod hanes y dydd llawn cariad a thrafod ei phwysigrwydd i’r rhai sy’n ei dathlu yma yng Nghymru.
Mae’r stori am Santes Dwynwen wedi cael ei haddasu a newid llawer dros y blynyddoedd, ond yn ôl yr hanes wreiddiol credir ei bod hi’n ferch i Brychan Brycheiniog, brenin o Ganolbarth Cymru yn y 5ed Ganrif. Mae llawer o ansicrwydd ynglŷn â phwy oedd ei mam, gyda Rigrawst (a oedd yn wyres i Ymerawdwr Rhufeinig), fwyaf tebygol, gyda Santes Dwynwen ei hun yn byw yn Ynys Môn. Dros y blynyddoedd, mae chwedl Santes Dwynwen wedi datblygu i’r stori rydyn yn gyfarwydd â hi heddiw.
Yn y chwedl fel rydym ni’n ei hadnabod mae Maelon Dafodrill yn cwympo mewn cariad gyda Dwynwen, ond roedd rhaid iddi hi ei wrthod er ei bod yn ei garu, oherwydd roedd ei thad wedi addo y byddai’n priodi rhywun arall. Gyda’i chalon yn torri, fe wnaeth Dwynwen weddio i Dduw er mwyn cwympo allan o gariad gyda Maelon, ac o ganlyniad daeth angel i droi Maelon yn iâ. Rhoddodd Duw dair dymuniad i Dwynwen. Dewisodd i ddadmer Maelon, byth priodi, a bod Duw, trwy Dwynwen, yn gwylio dros y cariadon. Oherwydd hyn, ac er mwyn dweud diolch, symudodd Dwynwen i Ynys Llanddwyn er mwyn dod yn lleian tan ei marwolaeth yn tua 460 AD.
Ond ceir rhai fersiynau hŷn o’r chwedl sy’n dweud bod dehongliad Dwynwen o gariad wedi’i ddinistrio o ganlyniad i’w thad yn ei gorfodi i briodi tywysog a hefyd oherwydd bod Maelon Dafodrill wedi gorfodi ei hun arni. O ganlyniad, gofynodd Dwynwen am ddiogelwch o gamdriniaeth, i ryddhau ei hun o’r bridoas ac i bawb sydd mewn cariad fod yn hapus - sydd yn wahanol iawn i’r chwedl heddiw.
Er bod hyn ychydig yn wahanol i’r chwedl am gariad rydym ni’n gyfarwydd gyda hi, mae’r ddau fersiwn yn cynnwys negeseuon pwysig am gariad yma yng Nghymru, ac yn rhoi cyfle i ni fel cenedl i ddangos cariad tuag at ein gilydd yn y ffyrdd cywir!
