Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi ethol Catrin Edith Parry sydd fel Is-lywydd y Gymraeg yn y flwyddyn academaidd nesaf. Yn wreiddiol o Fôn, mae Catrin bellach yn ei blwyddyn olaf yn astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Daeth Catrin i’r brig mis Mawrth eleni ar ôl derbyn dros 5,300 o bleidleisiau.

Teimlo fel ‘cam naturiol’

Wrth drafod pam ei bod hi wedi ceisio am y swydd, dywedodd Catrin, ‘oni mewn chydig o benbleth i ddweud y gwir, ddim yn siŵr pa lwybr i fynd lawr ar ôl gorffen fy ngradd.’

“Dwi wedi bod yn eistedd ar bwyllgorau’r Gym Gym ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd ers dwy flynedd erbyn hyn, felly mae’r swydd yma yn teimlo fel y cam nesaf yn naturiol”, meddai Catrin.

Yn ôl Undeb Myfyrwyr Caerdydd, mae’r rôl Is-Lywydd y Gymraeg yn ‘cyfrannu at gynrychiolaeth poblogaeth myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ym mhob mater sy’n ymwneud â’u profiadau prifysgol’, yn ‘hyrwyddo’r iaith, diwylliant a’r Gymuned o fewn pob ardal o ddarpariaeth y Brifysgol’ ac yn ‘cynrychioli’r gymuned o fyfyrwyr Cymraeg a bod yn weithgar wrth hyrwyddo UMCC’.

@ethol_edith / @catrinedith ar Instagram

Tegwch i’r Gymdeithas Gymraeg o fewn yr Undeb

Dywedodd Catrin ei bod hi ‘wir yn edrych ymlaen i fod yn cynrychioli myfyrwyr Cymraeg Caerdydd unwaith eto, mae criw gwych o siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd, a dwi’n edrych ymlaen i roi croeso Cymraeg i bawb sy’n cyrraedd y brifddinas yn 2024.’

Catrin Edith holds a Vice President Cymraeg election sign.

Daeth y rôl Is-lywydd y Gymraeg i rym am y tro cyntaf ar gyfer 2022-23 a Deio Owen sydd wrth y llyw ar hyn o’r bryd.

O ran yr hyn yr hoffai Catrin ei wneud yn wahanol, dywedodd ei bod eisiau ‘cryfhau’r berthynas rhwng yr Undeb a’r Gymdeithas Gymraeg’.

“Mae perthynas eithaf anodd wedi bod rhwng y ddau mewn blynyddoedd diweddar, felly byddai’n wych i gael uno’r ddau beth unwaith eto, a gwneud yn siŵr fod y Gymdeithas Gymraeg yn cael yr un cyfleoedd a chymdeithasau eraill yn yr undeb”, meddai Catrin.

Mae Catrin yn cydnabod pwysigrwydd cael Is-lywydd Gymraeg yn yr undeb a phan mor allweddol yw rhoi platfform uchel i lais myfyrwyr Cymraeg o fewn y brifysgol.

Roedd cefnogaeth y Gymdeithas Gymraeg i’w weld yn amlwg yn yr adeg yn arwain at yr etholiad ac mae’n amlwg fod gwaith caled Catrin wedi talu ar ei ganfed.

Bydd Catrin yn cymryd yr awenau fel Is-Lywydd y Gymraeg ym mis Gorffennaf, ond mae croeso i unrhyw un gysylltu os oes unrhywbeth yn codi.

@ethol_edith / @catrinedith ar Instagram.