Mae grŵp o fyfyrwyr o Ysgol y Gymraeg, Gwernan (Bl.3), Anna (Bl.3), Freya (Bl.1) a Gwilym (Bl.2) wedi dod at ei gilydd i sefydlu clwb clonc ymlaciol i fyfyrwyr Cymraeg, gyda’r nod o greu lle hamddenol i drafod llenyddiaeth Gymraeg dros baned. Mae’r grŵp yn cwrdd ddwy waith y tymor mewn caffis lleol yng nghanol y ddinas, gan gyfuno dau o hoff weithgareddau’r myfyrwyr – darllen a chlonc dros goffi da! Mae’r sesiynau’n cynnig cyfle i drafod llyfrau Cymraeg poblogaidd, rhannu argymhellion darllen, a chreu cymuned fywiog o ddarllenwyr Cymraeg.

Dywedodd Gwernan (bl.3 sy’n un o’r trefnwyr) “Dwi’n ofnadwy o gyffrous am y cyfle i gymdeithasu mewn awyrgylch wahanol i’r arfer.” Cafodd y digwyddiad cyntaf ei gynnal yn Hoffi Coffi ar yr 22ain o fis Hydref, ac roedd yn hyfryd gweld grŵp o fyfyrwyr yn cael clonc a sgwrs am y llyfr Tim, o’r gyfres Y Pump. Er mai myfyrwyr Ysgol y Gymraeg yw’r prif aelodau ar hyn o bryd, mae’r grŵp yn agored i unrhyw un sy’n hoffi darllen ac sydd eisiau gwella neu gynnal eu Cymraeg mewn awyrgylch cyfeillgar.