Ar ôl dod yn ail bump gwaith, mae Elfyn Evans (o’r diwedd) yn Bencampwr Byd Ralio, y Cymro cyntaf i wneud hynny a’r Prydeinwr cyntaf i wneud hynny mewn 25 mlynedd. Bydd ei enw yn y llyfrau hanes fel y trydydd gyrrwr o Brydain i gyflawni’r gamp gan ymuno â Colin McRae a Richard Burns.

Daeth diweddglo ar flwyddyn o ralio rhywngwladol ddydd Sul, Hydref 4, wrth i Rali Sardinia gael ei chynnal ar yr ynys yn yr Eidal. Roedd cyffro a bwrlwm yn mynd mewn i’r rali cyda’r Cymro, Elfyn Evans ar frig y bencampwriaeth.

Ond, roedd y cyffro ond ar ddechrau wrth i’r Cymro ddechrau ar y rasio ddydd Iau. Roedd 17 cymal yn rhan o’r rali hwn ond erbyn y diwedd, un cymal oedd o bwys, yr un olaf, y Cymal Cyffro ac am gyffro. Daeth amheuon i Elfyn Evans wrth iddo ddioddef tylliad (puncture) yn y rali ddydd Sul, cymal ond un o’r un olaf. Cafodd hyn effaith ar ei obeithion i gipio pwyntiau o ddydd Sul y rali. Toc wedi 13.00 wnaeth y gyrrwyr rasio am y tro olaf yn 2026 ar Gymal Cyffro Rali Sardinia ac am gymal! Roedd y cyfan yn dod lawr i hyn - un cymal ac yn y pen draw, un cornel.

Thierry Neuville o Wlad Belg osododd yr amser gyflymaf drwy’r cymal gan ei gwblhau mewn 04:54.2 a 5.6 eiliad tu ôl i’r gŵr o Wlad Belg, roedd Elfyn Evans gydag amser o 04:59.8. Ond roedd un gyrrwr i ddod, arweinydd y Rali, Oliver Solberg. Roedd y gŵr o Sweden yn barod i gipio coron y byd tan y gornel olaf. Ar ôl curo’r Cymro ar bob un o’r amseroedd rhannol (split times), roedd y diwedd o fewn golwg i Solberg a gobeithion y Cymry wedi diflannu. Ond wedyn daeth sioc i bawb wnaeth wylio’r cyffro wrth i Solberg ddod oddi ar y ffordd.

Aeth car Solberg yn syth mewn i berth ac yntau yn ceisio canfod ei ffordd nôl i’r ffordd a nôl i’r Rali. Ar ôl iddo ganfod ei ffordd nôl i’r ffordd a chwblhau’r cymal, roedd Solberg 14.5 eiliad yn arafach na Neuville ac yn camu nôl i’r 8fed safle ar y cymal gan adael pwyntiau pwysig i Elfyn. Ar ôl bod yn ail bump gwaith, mae’n bryd i’r Cymro gipio teitl mwyaf y byd ralio. Chi’n neud lwc eich hun o bosib…