Athrawon. Y bobl sy’n gosod seiliau ein dyfodol. Ond, beth os allen ni fod yn ‘bry ar y wal’ wrth iddyn nhw ddysgu sut i’n dysgu ni?

Dyma gyfres sy’n archwilio wyth athro newydd sbon yn ei blwyddyn cyntaf o ddysgu. Mae’r gyfres wedi ei gosod dros Gymru gyfan yn estyn o Bort Talbot i Blasmawr. Wedi’i chynhyrchu gan Carlam a’i gyhoeddi gan S4C ym mis Medi 2026, dyma gyfres o bum pennod awr o hyd sy’n rhoi cipolwg i’w bywyd newydd tu ôl i’r ddesg.

Ymhlith yr wyth athro mae yna ddysgwr Cymraeg o Lydaw sy’n dysgu Ffrangeg yn ysgol Bro Dur, Port Talbot. O gemeg i ddrama mae’r gyfres yn arddangos yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau o ddysgu mewn ysgolion prif ffrwd yng Nghymru. Mae hon yn gyfres ddrama gomedi sy’n cynnig rhagolwg difyr a realistig ar fywyd athrawon. Drwy gyfuno hiwmor â straeon emosiynol, mae’r gyfres yn llwyddo i ddangos ochr ddynol y proffesiwn addysgu, gan fynd y tu hwnt i’r stereoteip o athro fel rhywun sydd yno i addysgu yn unig.

Yr hyn wnes i fwynhau fwyaf am Athrawon oedd y cymeriadau. Mae nhw’n teimlo fel pobl go iawn, gyda’u personoliaethau, eu problemau a’u gwendidau eu hunain. Dydi’r gyfres ddim yn ceisio portreadu athrawon fel pobl perffaith sydd bob amser yn gwybod beth i’w wneud. Yn hytrach, rydyn ni’n gweld yr ochr fwy personol iddyn nhw, a sut mae gwaith yn gallu effeithio ar eu bywydau tu allan i’r ysgol.

Mae’r gyfres hefyd wedi dangos twf personol unigolion o fewn y gyfres. Ar ddechrau’r tymor, mi oedd Siôn-Rhys Evans yn cael trafferth sicrhau disgyblaeth yn ei ystafell ddosbarth gydag ambell ddisgybl; ond wrth ddyfalbarhau mae’n llwyddo i greu perthnasoedd pwrpasol gyda disgyblion i sicrhau bod parch yn cael ei ddangos yn ei wersi.

Agwedd arall sydd wedi bod yn hynod o adfywiol i wylio oedd cyflwyno Alex Williams sydd yn athro gwyddoniaeth yn ysgol Bro Dur ym Mhort Talbot. Mae Alex Williams yn berson an-neuaidd sydd yn defnyddio’r rhagenw Mx yn lle Miss/Mr yn yr ysgol. Mae’r cysyniad bod rhagenwau wedi datblygu yn ein bywyd pob dydd a’u bod hefyd wedi datblygu yn y gweithle hefyd, yn hynod o amazing! Dywedodd Dirprwy Bennaeth yr ysgol, Miss Sioned Jones:

“Dwi’n meddwl bod hi’n bwysig iawn bod bob un disgybl yn gweld bod ‘na gynrychiolaeth iddyn nhw ar gorff y staff. Mae Alex wedi mynegi eu balchder am agwedd barchus y disgyblion tuag at eu rhagenwau. Am blant ac ysgol ysbrydoledig (Dim ‘bo fi’n biased o gwbl)!”

Wrth nesáu at ddiwedd y gyfres gallaf edrych nôl a dweud heb os mae’r gyfres wedi bod yn llwyddiant mawr. Mae’r gyfres wedi bod yn bleser i’w gwylio ac rwy’n mawr obeithio ei bod hi yn cael ei adnewyddu am fwyfwy o gyfresi i ddod.