Sain gwefreiddiol oedd gan y gîtar drydanol nos Sadwrn diwethaf yng Nghlwb Ifor Bach, wrth i TewTewTenau gynnig blas o Lansannan i ganol y Brif-ddinas. Ar y 10fed o Hydref, heidiodd cannoedd o fyfyrwyr i gefnogi’r band roc o Ogledd Cymru a oedd yn uchafbwynt i rai wrth weld band lleol yn perfformio.

Ers ffurfio yn Haf 2022, mae TewTewTenau wedi cyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau Eisteddfod Genedlaethol 2023, yn ogystal â pherfformio yn Tafwyl ac ar Lwyfan y Maes.

I Aled Brennan, sydd yn wreiddiol o Lansannan, roedd y gig wedi profi’n fwy na noson allan iddo:

“Mae’n bwysig i allu cael mynediad at gerddoriaeth cyfarwydd, ac mae hyd yn oed yn well yn fyw” meddai. “ Mae’n wych fod band lleol o fy nhref i yn gallu cael llwyfan yn unig clwb Cymraeg Caerdydd a gwerthu allan o docynnau.”

Mae’r profiad hwn yn arwyddocáol i fyfyrwyr sydd wedi gadael eu hardaloedd lleol i astudio yn y brifddinas. Gall symud i ardal ddieithr gynnig cyfleoedd cyffrous, er weithiau bod rhaid aberthu’r cysylltiad dyddiol gyda chymunedau cyfarwydd.

I Aled, mae cerddoriaeth yn gyfrwng i gadw’r cysylltiad hwnnw’n fyw:

“Mae cael y cyfle i glywed band lleol o adra, a gweld ffrindiau yn teithio lawr i fama yn gwneud i’r lle deimlo’n fwy cartrefol. Dwi’n mwynhau bob dydd Sadwrn yn Clwb, ond roedd y noson honno yn un gwerth chweil”.

Mae’r ymdeimlad hwn o berthyn yn tynnu sylw at rôl cerddoriaeth Gymraeg y tu hwnt i’r llwyfan ac effaith hyn a’r bobl o amgylch y wlad. I gynulleidfaoedd ifanc, mae gigs yn ffordd i gwrdd â phobl newydd, dathlu’r iaith Gymraeg a llunio cymuned newydd mewn dinas bell o adref.

Er hyn, mae sicrhau bod gan fandiau ar draws Cymru fynediad at lwyfan a chynulleidfa yn parhau’n gwestiwn pwysig i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg.

Mae Tomos Jones o Bwllheli yn dadlau mai “Gogledd Cymru sy’n dominyddu’r sîn Gymraeg”, gan amlygu cyfraniad sylweddol y rhanbarth at gerddoriaeth gyfoes Gymraeg. Roedd yn cydnbaod yr “heriau i gychwyn band yng Nghaerdydd ac ardaloedd y de oherwydd canran llai o siaradwyr a bod yn ansicr am niferoedd y gynulleidfa."

Mae lleoliadau fel Clwb Ifor Bach felly’n chwarae rhan flaenllaw wrth hybu cerddoriaeth o wahanol ardaloedd yng Nghymru i gynulleidfa yng Nghaerdydd. Yn ôl y clwb:

“Rydyn ni wedi bod ar flaen y gad o ran diwylliant Cymru ers dros ddeugain mlynedd, ac rydyn ni’n falch o fod yn lleoliad llawr gwlad a hyrwyddwr cerddoriaeth mwyaf blaenllaw Cymru. Mae Clwb Ifor yn cyflwyno’r gorau o blith cerddoriaeth Cymru a thu hwnt i’w gynulleidfaoedd, gan roi cyfleoedd i filoedd o artistiaid newydd ddatblygu eu crefft.”

Er mwyn i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg ffynnu ar adegau ar wahân i’r Eisteddfod, mae angen i fandiau allu cyrraedd cynulleidfaoedd newydd. I Aled a’r myfyrwyr a ddaeth i weld TewTewTenau, mae’r gig yn dangos sut y gall un llwyfan ddod â phawb at ei gilydd.

Aled Brennan a Tomos Jones
Aled Brennan a Tomos JonesPhotograph: Sami Sullivan