Yn ei gyfrol ‘The Welsh Language In Cardiff: A History Of Survival’, prif ddadl Owen John Thomas yw ‘y bu’r Gymraeg yn llewyrchu ac yn wir, yn iaith a oruchafodd yng Nghaerdydd am ganrifoedd.’ Mae hyn dal yr un mor wir hyd heddiw. Gyda dros 100,000 o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghaerdydd, mae’r ddinas fawr yn atyniad hynod boblogaidd i’r Cymry, yn enwedig i’r Myfyrwyr Cymraeg yn ein plith. Heb os, mae ‘na ddigon o gyfleoedd i gymdeithasu a threulio eich hamser drwy gyfrwng y Gymraeg, a dyma un o’r prif resymau y mae unigolion yn penderfynu astudio yma ym Mhrifysgol Caerdydd.

Os ydych yn fyfyriwr yn y flwyddyn gyntaf, mae digonedd o ddigwyddiadau ac atyniadau yn y Gymraeg ar gael i’w mynychu o fewn y Brifysgol.

Dewis doeth yw i ymgeisio am lety ar gyfer siaradwyr Cymraeg megis Llys Senghennydd, gan fod cymuned Gymraeg glos yno a chewch gyfle i fyw bywyd Cymraeg fel Myfyriwr i’r eithaf – o fore gwyn tan nos bydd y Gymraeg i’w glywed yno, yn bendant.

Os oes diddordeb gennych yn y Gymraeg neu’r diwylliant boed yn siaradwr newydd neu yn rhugl, mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd yma i’ch cynrychioli chi drwy fod yn gyfrifol am sicrhau fod ystod eang o ddigwyddiadau a gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig i fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol, a gyda rôl ar gyfer Swyddog Cymraeg llawn amser yn ei le, mae’r Gymraeg yn fythol fyw yn y Brifysgol.

Trwy blatfform radio’r Brifysgol; RadioXpress, cewch gyfle i sicrhau llais a chyfleoedd i fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol. Ceir cyfle i greu rhaglen radio drwy gyfrwng y Gymraeg a thrwy gyfrwng hynny, mae modd hyrwyddo’r iaith Gymraeg wrth sgwrsio a chwarae caneuon Cymraeg gan artistiaid o Gymru, a hyn i gyd o galon Undeb y Myfyrwyr.

Cymuned llawn Cymraeg yw’r GymGym yn ogystal ag Aelwyd y Waun Ddyfal. Y GymGym yn Gymdeithas Gymraeg ar gyfer myfyrwyr Caerdydd sy’n ymglymu a mwynhau amryw o weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg, a’r Waun Ddyfal yn gôr sy’n mwynhau clonc, cymdeithasu, a chân!

Ym Mhrifysgol Caerdydd, ceir cyfleoedd di-ri i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg – o radd Sengl BA Y Gymraeg i radd cyd-anrhydedd, mae ‘na rywbeth at ddant pawb. Mae Ysgol y Gymraeg yn enwedig yn adran groesawgar a chartrefol o fewn y Brifysgol ac yn ymfalchio yn llwyddiannau eu myfyrwyr. O fewn yr ysgol, crewyd ‘Cymdeithas Iolo’ – cymdeithas sy’n tynnu sylw at bethau diwylliannol a phwysigrwydd yr iaith. Maent wedi llwyddo i gynnal nifer helaeth o ddigwyddiadau llwyddiannus megis y Stomp flynyddol – sy’n gyfle gwych i allu rannu eich dawn ieithyddol ymysg y Cymry.

Yn amlwg, mae’r iaith Gymraeg o fewn Prifysgol Caerdydd yn fytholwyrdd ac felly o bydded i’r heniaith barhau!