Agorwyd pedwerydd gwersyll Urdd Gobaith Cymru yr wythnos diwethaf, ym Mhentre Ifan yn Sir Benfro. Gyda’r nod i flaenoriaethu’r amgylchedd, lles emosiynol pobl ifanc a’r Gymraeg cynigia’r gwesyll ‘ddihangfa rhag y byd digidol’ i ymwelwyr a gwersyllwyr.
Trwy gymorth rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a chynllun buddsoddi ehangach gwerth £10m yr Urdd i uwchraddio’r gwersylloedd, gwelwyd gwireddu dymuniadau pobl ifanc, o drafodaethau mewn cynhadledd ieuenctid. Yn ôl Sian Lewis, Prif weithredwr yr Urdd “Wrth bo’ ni’n edrych ar gyfnod o fuddsoddi sylweddol yn y gwersylloedd, ro’dd hwn yn gyfle rhy dda i’w golli, sef sefydlu rhywbeth reit arloesol”.
Rhannodd Jeremy Miles ar ei gyfrif Trydar: ‘Llongyfarchiadau i’r Urdd ar agor eu gwersyll amgylcheddol cyntaf, Pentre Ifan. Gyda chymorth £500k o gyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd y ganolfan newydd wych hon yn galluogi pobl ifanc i gysylltu â’r tir a phrofi ffordd fwy cynaliadwy o fyw.’
Adnewyddwyd canolfan addysgol Pentre Ifan a’i drawsnewid i fod yn wersyll. Yn ôl Urdd, bydd lle i 40 person gysgu yn y gwersyll yn ystod misoedd y gaeaf, a lle i dros 75 yn ystod yr haf, pryd y byddant yn gwneud defnydd o bodiau i roi profiad o wersylla i’r bobl ifanc a fydd yn mynychu.
‘Dan ni gyd yn ymwybodol gymaint mae’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar les a iechyd meddwl pobl ifanc’ dywed Sian Lewis. Bydd pobl ifanc a fydd yn ymweld â’r gwersyll yn derbyn ‘digital detox’ wrth iddynt fynd ar deithiau cerdded ar hyd yr arfordir, mynyddoedd a’r coedwigoedd. Yn ogystal â hyn, caiff gweithdai ffasiwn cynaliadwy, ioga, sesiynau gwylltgrefft, meddylgarwch, syllu ar y sêr a tyfu a chynaeafu bwyd eu cynnig yno. Bydd Gwersyll Pentre Ifan yn cynnig lle i 8,000 o bobl ifanc y flwyddyn.
Ymateb yr ifanc
Rhannodd dau fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd eu barn nhw ar wersyll newydd yr Urdd:
‘Ym aml, dwi’n teimlo fy mod yn ‘over whelmed’ gan cyfryngau cymdeithasol agwaith Prifysgol. Byddai ymweld â Gwersyll newydd yr Urdd yn caniatau i mi anghofio am fy mhryderon a phwysau trwm Prifysgol.’ Ceris Lloyd. Blwyddyn 2
Ym aml, dwi’n teimlo fy mod yn ‘overwhelmed’ gan cyfryngau cymdeithasol agwaith Prifysgol.
‘Bydd y gwersyll newydd yma yn rhoi’r cyfle i’r bobl ifanc allu cymdeithasu drwy’r Gymraeg ac hefyd ddysgu mwy am fyd natur hardd yr ardal a’i hanes’ Osian Williams. Blwyddyn 2

