Ar y 7fed o Chwefror bydd Pencampwriaeth y 6 Gwlad yn dechrau i dîm rygbi Cymru wrth iddynt wynebu Lloegr draw yn stadiwm Allianz. Mae perfformiad diweddar Cymru yn y bencampwriaeth wedi bod yn hynod aflwyddiannus. Mae hynny gan y bu iddynt gipio’r lwy bren ym mhencampwriaeth 2024 a 2025 am y tro cyntaf mewn dros 20 mlynedd.
Nid perfformiad y chwaraewyr yn unig sydd wedi dirywio. Mae Undeb Rygbi Cymru eu hunain wedi wynebu ystod o rwystrau trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf. Uchafbwynt yr wythnosau yma yw bod yr Undeb wedi cytuno mai perchnogion tîm y Gweilch, Y11 Media and Sport yw’r bidwyr sy’n cael eu ffafrio i brynu tîm Caerdydd.
Mae hyn wedi arwain at ymateb chwyrn gan gefnogwyr y Gweilch ac yn ychwanegu rhagor o bryderon am ddyfodol rygbi Cymru. Er hynny, ni olyga hyn nad yw chwaraewyr y dyfodol yn edrych ymlaen tuag at gynnwrf y bencampwriaeth a dyfodol rygbi Cymru. Un o’r rheini yw Gwern, 18, maswr tîm Rygbi Gogledd Cymru.
Dywedodd: “Er gwaethaf pob dim, dwi wir yn meddwl bod Cymru am synu pawb eleni. Bydd y frwydr yn galed fel arfer ond, dwi yn meddwl y gallai’r bechgyn guro Lloegr a brwydro’n ddewr yn erbyn Iwerddon a Ffrainc. Efallai nad ydi’r Gamp Lawn o fewn cyrraedd ond, mi ydw i yn rhagweld gorffeniad cryf yn y tabl, balchder wrth wisgo’r crysau cochion ac y bydd yr egni yn Stadiwm Prinicpality yn arbennig.
Fel chwaraewr fy hun, mae cael cynrychioli rhan o Gymru’n rywbeth wnai fyth gymryd yn ganiataol a dwi mor ddiolchgar o’r profiadau ydw i wedi gael hyd yn hyn ac yn edrych ymlaen yn arw i weld beth ddaw nesaf.” Cawn weld felly a wnaiff carfan y Prif Hyfforddwr, Steve Tandy, ar ei newydd wedd lwyddo i ail-gynnau’r fflam yn nyfodol tîm rygbi Cymru. Cyfnod o gymdeithasu, dathlu a gorfoleddu yw’r misoedd nesaf i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd hefyd wrth i’r penwythnosau nesaf gael eu llenwi gyda cyffro’r rygbi. Ond, ble yw’r mannau gorau i fyfyrwyr ymgolli yn y bencampwriaeth eleni?
Tafarn Pontcanna, 36 Cathedral Road: Tafarn gysurus a delfrydol yw Tafarn Pontcanna i amsugno cynnwrf gwirioneddol y bencampwriaeth. Gyda chwrw da a chynulleidfa gyfeillgar, ni wnewch chi fethu yr un dacl na chais. Depot, Uned 8, Curran Road: Ynghanol y ddinas dyma un o’r lleoliadau mwyaf poblogaidd i wylio gemau’r bencampwriaeth.
Yno, mae sawl sgrîn anferth, torfeydd o gefnogwyr brwd a digonedd o opsiynau bwyd a diod. Yn sicr, ni wnewch chi golli eiliad o’r chwarae na’r awyrgylch yno. Walkabout, St Mary Street: Os am wylio’r gêm mewn man hwyliog, cynhyrfus sy’n orlawn o gefnogwyr balch i’ch paratoi ar gyfer noson wyllt yn y ddinas, nid oes unman gwell.
Walkabout yw cartref chwaraeon byw y ddinas gyda chwrw oer a sawl sgrîn yn amgylchynu pob cornel o’r adeilad i sicrhau bod eich llygaid yn dal y cyfan. The Old Arcade, Church Street: Dyma leoliad hynod boblogaidd arall i ymgolli’n y bencampwriaeth yn enwedig i gefnogwyr rygbi angerddol. Nid yn unig bod sawl sgrîn mawr i ddal pob symudiad o’r gêm, ond hefyd mae digon o brydau ysgafn cartref, fforddiadwy ar gael i gynnal yr egni o’r gic gyntaf hyd at y munudau ychwanegol.
Am fwy o wybodaeth am y bencampwriaeth a gemau rygbi Cymru’n benodol, ewch i ymweld â: https://www.wru.wales

