Ers tro bellach, mae’r pwnc hwn wedi hawlio’r penawdau yma yng Nghymru, am nad oes digon o bobl ifanc yn astudio ieithoedd tramor yn ein hysgolion ni. Mae’n fwy amserol nag erioed bellach ein bod ni’n parhau i hybu ieithoedd yma yng Nghymru yng ngolau cynigion Prifysgol Caerdydd i gau Ysgol Ieithoedd Modern y brifysgol.

Gan fod cyn lleied o ddisgyblion yng Nghymru yn dewis astudio iaith dramor ar lefel TGAU a Lefel A, mae wedi dod yn destun pryder i nifer fawr o bobl, yn enwedig wedi nifer o gwynion ynghylch rhwystrau Brexit. Bu gostyngiad o 29% yng ngheisiadau arholiadau Ieithoedd Tramor mewn 5 mlynedd yn unig.

Yn 2020, nodwyd cwymp o hanner, yn y disgyblion sy’n astudio Almaeneg a Ffrangeg yn y Deyrnas Unedig, sy’n peri gofid i nifer. Felly pam nad oes mwy o bobl am ddysgu iaith dramor felly?

Wel mae llawer o bethau yn chwarae rôl am wn i, yn y lleihad hwn. Gyda Saesneg yn dod yn iaith fwyfwy poblogaidd, mae’r meddylfryd fod ‘pawb yn gallu siarad Saesneg’ yn dominyddu braidd. Mae nifer fawr o’r farn, os ydyn nhw’n medru siarad Saesneg, mi fyddan nhw’n iawn felly. Ond y gwir yw, nid yw 70% o boblogaeth y byd yn siarad Saesneg! Felly, mae dysgu iaith dramor fwy pwysig nag y buodd hi erioed, er mwyn i ni barhau i allu cyfrannu ar blatfform rhyngwladol Ewrop, fel gwlad sydd â’i hiaith ei hun wrth gwrs. Gyda’r galw am fwy o siaradwyr ieithoedd yn cynyddu ers Brexit, pam nad oes mwy yn ei astudio?

Mae ‘na feddylfryd hefyd, nad oes angen iaith dramor os nad ydych chi am adael y wlad hon, ond y gwir yw, mae ‘na gymaint o fusnesau a chyflogwyr sy’n awchu am staff sy’n medru ieithoedd. Mae medru iaith arall yn gwneud unrhyw gais am swydd gymaint yn fwy deniadol i rywun sy’n cyflogi.

Does dim hyd yn oed rhaid dweud, gymaint o fuddion i’r ymennydd sydd wrth ddysgu iaith newydd. Mae’r manteisio yn ddirifedi.

Rydyn ni ar ei hôl hi yma’n y wlad hon. Mae gwledydd y cyfandir megis yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a’r Eidal, yn siarad dwy, tair, pedair iaith yn ddi-feddwl. Felly pam nad ydyn ni’n gallu gwneud hynny chwaith? Gadewch i ni fod yr un mor gystadleuol yn rhyngwladol a dangos bod Cymru yr un mor werthfawr i gymuned ryngwladol Ewrop.

Ieithoedd yw un o’r pethau mwyaf gwerthfawr y gallwch chi ei gael, ac mae’n fwy nag iaith, mae’n arf. Rydych chi’n dod yn rhan o ddiwylliant newydd, yn dod i adnabod pobol newydd ac yn ehangu’ch gorwelion cymaint yn fwy. Nid yw iaith costio dim, ond mae’r rhai y byddwch chi’n siarad â nhw yn yr iaith honno, yn gwerthfawrogi’r ymdrech yn fawr- a dyna le y gwelwch chi harddwch iaith ar ei orau.

Mae yna gymaint o fuddion wrth ddysgu iaith dramor, ac i siaradwyr Cymraeg, mae dysgu iaith arall gymaint yn haws, am ein bod ni’n medru o leiaf dwy iaith yn barod. Mae hi fil gwaith yn haws dysgu iaith arall, os ydych chi’n ddwyieithog, yn ôl pob sôn. Mae ieithoedd yn cynyddu’ch siawns am swyddi, yn cynnig tâl mwy gan amlaf, ac yn eich galluogi i deithio’r byd!

Felly, cymerwch funud i feddwl, cyn bodloni at droi at y Saesneg pan fyddwch chi ar wyliau dramor, beth am fynd ati, a chrafu’r gwe pry cop oddi-ar eich ieithoedd y dysgoch yn yr ysgol, neu beth am ddysgu iaith gwbl newydd? Pam lai, dysgwch un gair bob dydd!

Mae ieithoedd tramor wedi dod yn fwy pwysig nag erioed i ni fel Cymry, os ydyn ni am barhau i sefyll ar lwyfan rhyngwladol, ac mae’n rhaid i ni fel gwlad sylweddoli hynny ar fyrder, os ydyn ni am achub ein statws yn economaidd ac yn gymdeithasol. Felly da chi, mynnwch eiriadur, neu ap ar eich ffôn. Bydd iaith arall yn eich galluogi i weld y byd hwn drwy sbectol newydd, glân.