Mae clwb pêl-droed Wrecsam, sydd bellach wedi cipio calonnau cefnogwyr ledled y byd, wedi sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Bencampwriaeth pêl-droed yn dilyn tymor arall cofiadwy. Dyma’r trydydd dyrchafiad yn olynol i’r clwb ers i’r actorion Rob McElhenney a Ryan Reynolds gymryd awenau’r clwb yn 2020. Mae’n gyfnod sydd wedi ailgynnau brwdfrydedd lleol a rhyngwladol dros y clwb hynaf yng Nghymru.
Sicrhaodd Wrecsam y fuddugoliaeth yma drwy guro Charlton Athletic tair gôl i ddim ar y 26ain o Ebrill, gan felly sicrhau dyrchafiad i bencampwriaeth Lloegr am y tro cyntaf ers tymor 1981-82. Mae’r fuddugoliaeth hon nid yn unig yn nodi’r trydydd dyrchafiad yn olynol i’r clwb, ond hefyd yn gosod record newydd yn hanes pêl-droed Lloegr fel y tîm cyntaf i gael ei ddyrchafu o’r bumed haen i’r ail adran mewn tri thymor yn olynol. Ond nid yw’r stori’n ymwneud â phêl-droed yn unig.
Mae’r dylanwad diwylliannol a chymdeithasol o amgylch Wrecsam wedi bod yn sylweddol. Mae cyfres ddogfen ‘Welcome to Wrexham’ wedi tynnu sylw byd-eang at stori unigryw’r clwb, gan bortreadu nid yn unig y gamp, ond hefyd y gymuned o’i chwmpas. Yn ogystal, mae’r datblygiadau cyffrous yma hefyd wedi cael effaith bositif ar economi’r ddinas a’i busnesau lleol, lle mae trigolion y ddinas i’w gweld yn derbyn swm sylweddol uwch yn eu busnesau gyda phobl yn dod o bob rhan o’r byd.
Un trigolyn sydd wedi profi effaith hyn yw Tina Farnworth, rheolwraig siop clwb pêl-droed Wrecsam lle y profa cynnydd sylweddol mewn gwerthiannau, yn enwedig ar grysau cartref Wrecsam. Dywedodd “Fe wnaethon ni werthu 24,000, sy’n anhygoel i glwb yn y Gynghrair Genedlaethol, ond mae’n debyg bod hynny’n mynd i ddyblu wrth fynd ymlaen.” O ganlyniad, mae’r dref fach yng Ngogledd Cymru bellach ar y map byd-eang. Mae’r dyrchafiad diweddaraf hwn yn dynodi cam arall tuag at adfer statws Wrecsam fel clwb sefydledig yn y gynghrair broffesiynol ar ôl treulio 15 mlynedd ar y cyrion.

Mae’r cefnogwyr ffyddlon bellach yn profi ffrwyth eu cefnogaeth diwyro ac yn gweld dyfodol llewyrchus iawn i’r clwb. Ymhlith y cyntaf i longyfarch y Dreigiau oedd prif weinidog Cymru, Eluned Morgan, a ddywedodd ar X (Twitter yn flaenorol): “Llongyfarchiadau mawr Wrecsam. Tri dyrchafiad yn olynol.
Mwynhewch y dathliadau.” Wrth edrych ymlaen, bydd heriau newydd i’w hwynebu yn y Bencampwriaeth, ond gyda’r gefnogaeth ariannol, gweledigaeth y perchnogion, ynghyd â sylfaen gref o gefnogw y r angerddol, mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair. Mae Wrecsam nid yn unig wedi ailgodi fel clwb pêl-droed cystadleuol, ond hefyd fel symbol o obaith a chynaladwyedd i glybiau llai ledled y byd. Dywed y cyd-berchenog Ryan Reynolds mewn cyfweliad “Our goal is to make it to the Premier League”.
Pwy a ŵyr beth fydd sefyllfa’r clwb mewn blwyddyn. Mae’r freuddwyd yn parhau ac mae Wrecsam, unwaith eto, yn barod i’w fyw.

