Mae prawf swab newydd wedi cael ei ddatblygu a fydd yn cynnig gobaith i fenywod sy’n dioddef o endometriosis. Ar gyfartaledd, mae’n cymryd rhwng 6 a 10 mlynedd i dderbyn diagnosis o’r cyflwr, sy’n golygu blynyddoedd o ddioddefaint ac ansicrwydd i filiynau o fenywod. Mae doctoriaid yn dueddol o ddiystyru’r symptomau, gan roi’r bai ar symptomau cyffredin y misglwyf. O ganlyniad, mae nifer o fenywod wedi siarad am eu profiadau gan ddweud eu bod yn cael eu troi ymaith gan ddoctoriaid sy’n gwrthod gwrando ar eu pryderon. Bydd y prawf newydd hwn yn haws i’w berfformio, ac yn cynhyrchu canlyniad o fewn cyfnod byr o 4 wythnos. Mae gobaith y bydd hyn yn arwain at fynediad cyflymach at driniaethau ac yn lleihau’r siawns o ddatblygu anffrwythlondeb o fewn menywod. Mae’r prawf wedi cael ei ddatblygu trwy ddefnyddio micro-RNA, yr un wyddoniaeth a ddefnyddiwyd i greu’r brechlynnau Covid-19. Bydd y prawf ar gael am £1,000 o fewn gwasanaethau gofal iechyd preifat yn y misoedd nesaf, ac mae bwriad i’w ddarparu ar y GIG cyn gynted ag sy’n bosib. Dywedodd Jo Sinclair o’r mudiad Fertility First bod y datblygiad hwn yn fuddsoddiad bach iawn i’r GIG wrth ystyried y blynyddoedd o boen a gofid y mae miliynau o fenywod yn eu dioddef.
Beth yw Endometriosis? Mae endometriosis yn gyflwr hirdymor sy’n effeithio ar 1 ym mhob 10 o fenywod ar draws y byd. Mae’n gyflwr sy’n achosi poen difrifol gan fod meinwe sy’n debyg i leinin y groth yn tyfu mewn mannau eraill yn y corff, yn aml o amgylch yr organau atgenhedlu a’r coluddyn. Mae symptomau endometriosis yn gallu bod yn debyg i symptomau’r misglwyf, gan gynnwys poenau bol neu gefn difrifol. Yn wahanol i’r misglwyf arferol, mae’r poenau hyn yn gallu effeithio ar ansawdd bywyd unigolion, trwy eu rhwystro rhag ymgymryd mewn gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Mewn achosion difrifol, mae endometriosis yn gallu arwain at broblemau iechyd meddwl, gyda nifer o fenywod yn dioddef o iselder o ganlyniad i’r cyflwr. Ceir anwybodaeth o hyd ynglŷn â beth yn union sy’n achosi endometriosis ac, ar hyn o bryd, nid oes triniaeth yn bodoli sy’n cael gwared â’r cyflwr yn gyfan gwbl. Er hyn, mae triniaethau ar gael sy’n gallu lleddfu’r boen neu helpu i reoleiddio’r symptomau, gan gynnwys poen laddwyr cryf a llawdriniaeth i waredu ar y meinwe endometriwm.
Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod nyrsys endometriosis newydd wedi eu penodi ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru, mewn gobaith o wella’r gwasanaethau ar gyfer y cyflwr cronig. Daw hyn yn sgil pwysau ar y Llywodraeth i wella gwasanaethau iechyd menywod yng Nghymru, sydd eisoes wedi darparu buddsoddiad o £1m i ariannu’r swyddi newydd hyn. Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Yn y gorffennol, nid yw gwasanaethau iechyd menywod wedi cael eu trin yn gyfartal, ac mae lleisiau menywod wedi cael eu hanwybyddu”. Wrth glywed am brofiadau menywod sy’n dioddef o endometriosis, mae’r datganiad hwn yn taro’r hoelen ar ei phen. Er datblygiadau diweddar yn y maes, mae’r broses o ddarparu triniaeth resymol ac effeithlon i ddioddefwyr endometriosis ymhell o gyrraedd pen ei thaith.
