Daeth bwrlwm i ddinas Wrecsam yn ddiweddar wedi i gwmni Kellogg’s sydd bellach yn cael ei alw’n Kellanova, gyhoeddi ei bod nhw’n bwriadu sefydlu ffatri fwyaf Ewrop sy’n cynhyrchu grawnfwyd, yn nhref y sêr Hollywood, Wrecsam.
Bwriad y cwmni grawnfwyd Kellanova yw buddsoddi £75 miliwn i’r cynllun hwn yn ninas Wrecsam a hynny wrth ddyblu maint y ffatri sydd eisoes yno yn barod ac yn cyflogi 350 o weithwyr ar hyn o bryd. Bydd hyn yn cael cryn effaith ar faint y bocsys o rawnfwyd sy’n cael eu cynhyrchu. Bob diwrnod, bydd modd cynhyrchu 1.5 miliwn o focsys o rawnfwyd dan olau’r datblygiadau newydd. Yn llygad y datblygiadau hyn, bydd ymhell dros 100 o swyddi newydd yn cael eu creu ar y safle, gan gynyddu maint eu cynhyrchu hefyd.
Ond nid yn y ffatri ei hun yn unig y daw budd y datblygiadau hyn. Mae nifer o bobl leol yn grediniol y daw budd i’r dref ac i fusnesau’r ardal wrth ddod â maint y buddsoddiad hwn i ardal mor fach.
Mae Kellogg’s yn enwog am gynhyrchu rhai o rawnfwydydd mwyaf adnabyddus y byd, megis Special K, Fruit ‘n’ Fibre a Crunchy Nut. Yn dilyn y bwriad arfaethedig i gau ffatri Kellanova ym Manceinion ymhen dwy flynedd, bydd ffatri Wrecsam yn dechrau cynhyrchu creision ŷd, neu ‘Corn Flakes’, sef un o rawnfwydydd mwyaf enwog y Deyrnas Unedig.
Yn ôl Cyngor Wrecsam, mae’r datblygiad hwn yn ‘gyffrous’ ac maen nhw’n gobeithio y gwneiff y dref weld buddion ym mhob agwedd o fywyd cymdeithasol ac economaidd fel sgil-effaith i’r buddsoddiad sylweddol hwn. Nid yw’r maes cynhyrchu grawnfwyd yn y Deyrnas Unedig wedi gweld y fath fuddsoddiad ers sawl degawd, ac felly mae’r Cyngor yn obeithiol iawn am yr effaith y’i caiff ar y dref a’i phobl.
Dywed y Cyngor hefyd, bod y datblygiadau hyn am fod yn rhai hir-dymor, sydd am weld dyfodol cryf i ffatri Kellanova Wrecsam, sydd yn newyddion cadarnhaol i nifer o bobl leol sydd yn debygol o fod yn chwilio am waith yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

