Cyhoeddwyd yn ddiweddar y byddai gwobr newydd gwerth £15,000 yn lansio ym myd y celfyddydau yng Nghymru, sef Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel. Bydd y Wobr yn cael ei lansio gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) mewn partneriaeth gyda’r cantor a pherfformiwr enwog, Syr Bryn Terfel, er mwyn helpu cantorion ifanc. Yn ôl y Coleg, mae’r Wobr “yn un o’r rhai mwyaf gwerthfawr yn unrhyw le yn y byd”.
Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel
Daeth Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel i ben yn gynharach eleni, yn dilyn 20 mlynedd o’i fodolaeth. Yn y gystadleuaeth honno, dewiswyd 6 pherson ifanc i gystadlu am yr ysgoloriaeth bob blwyddyn, a’r perfformiwr buddugol yn derbyn gwobr ariannol o £4,000. Daeth yr ysgoloriaeth i ben yn sgîl partneriaeth newydd yr Urdd gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, wrth iddynt gynnig sesiynau mentora a chyfleoedd rhyngwladol i enillwyr prif gystadlaethau Eisteddfod yr Urdd.
Gwobr y Gân Bryn Terfel
Bydd Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel yn gyfle newydd i gantorion ifanc gystadlu am wobr ariannol wrth iddynt “symud o astudiaethau gradd i gyrsiau ôl-radd a phan fydd ffynonellau cyllid yn fwy prin i barhau i hyfforddi”, meddai CBCDC. Bydd conservatoires ledled y Deyrnas Unedig â chyfle i enwebu eu cantorion ar gyfer y Wobr, ac mae cynlluniau i ymestyn y cyfle hwn i conservatoires rhyngwladol yn y pen draw.
Yn ôl Elwyn Williams, a gystadlodd am Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel cyn iddi ddod i ben, “Dwi’n credu bod hi’n hynod o bwysig bod cyfle newydd yn cael ei ddatblygu oherwydd nid yn unig oedd yr ysgoloriaeth yn rhoi gwobr ariannol i’r enillydd ond yn bwysicach fyth roedd yr ysgoloriaeth yn rhoi platfform mawr i’r cystadleuwyr i gyd. Roedd yr ysgoloriaeth yn rhoi cyfle gwych i berfformwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd i gael eu gweld”.
Ychwanegodd, “Mae astudio ym maes y celfyddydau yn gallu bod yn ddrud dros ben. Yn ogystal mae cynnal sgiliau ar ôl gorffen astudio hefyd yn gallu bod yn ddrud felly mae unrhyw wobr ariannol yn werthfawr”.
Hybu’r Gymraeg
Bydd y cystadleuwyr yn canu yn y Gymraeg ac yn eu hiaith eu hunain wrth gystadlu am y Wobr, er mwyn cynrychioli gwahanol ddiwylliannau, a chyflwyno’r Gymraeg i bobl o bob cefndir.
Dywed Syr Bryn Terfel, Is-lywydd CBCDC, “Mae Caneuon Cymraeg wedi bod yn rhan o fy mywyd ers pan oeddwn yn blentyn. Drwy gydol fy ngyrfa, yn ogystal â bod yn ddehonglwr balch o Lieder mawr yr Almaen, Chansons Ffrainc a’r Gân Saesneg, rydw i bob amser wedi hyrwyddo caneuon gwerin a chaneuon celf y genedl gerddorol hon”.
Ychwanegodd, “Ond mae canu Cymraeg yn dal i fod yn rhywbeth sy’n weddol anhysbys tu allan i Gymru felly rwy’n llawn cyffro i gael rhannu’r perlau gwych hyn gyda chantorion newydd ac i ddefnyddio Cronfa Syr Bryn Terfel, fy Sefydliad newydd a phartneriaeth gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, i’w cefnogi yn eu datblygiad fel artistiaid”.
Yn ôl Tim Rhys-Evans, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC, mae eu cantorion, sy’n dod o bob cwr o’r byd gan gynnwys Awstralia, Hong Kong a’r Unol Daleithiau yn dysgu caneuon Cymraeg er mwyn canu gyda Bryn yn nathliadau pen blwydd 75 oed y Coleg. Dywedodd, “Mae’n bleser eu gweld yn syrthio mewn cariad â’r repertoire hwn, ac edrychaf ymlaen at weld dylanwad hyn yn lledaenu wrth i Wobr y Gân ddatblygu.”
Cyfnod Preswyl
Bydd cyfle arbennig hefyd i’r rheini sy’n cyrraedd y rownd derfynol i breswylio yn y Coleg am dridiau a mynychu dosbarthiadau amrywiol yn ystod y cyfnod hwn. Bydd hwn wedi’i ariannu’n llawn.
Bydd preswyliad cyntaf y Wobr yn dechrau ar 5ed o Dachwedd 2025, a’r Rownd Derfynol gyntaf cyn cael ei chynnal ar yr 8fed o Dachwedd 2025. Bydd yn cael ei chynnal bob dwy flynedd wedi hynny.
