Yn sgîl bygythiadau i rôl Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (UMCC) wedi codi’u llais ac wedi datgelu eu bod yn sefyll yn gryf gydag UMCA ar yr achos. Rhyddhaodd Catrin Edith Parry, Is-lywydd y Gymraeg yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, ddatganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, ar y cyd gyda Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor a Swyddog Materion Cymraeg Undeb Myfyrwyr Abertawe, yn datgan “Rydym yn sefyll gyda UMCA yn ystod yr ymgyrch hwn, gan obeithio bydd y swydd yn aros fel un llawn amser”.
Undeb Myfyrwyr Cymraeg hynaf Cymru
Bu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) yn dathlu ei phen blwydd yn hanner can mlwydd oed yn gynharach eleni – yr Undeb Myfyrwyr Cymraeg hynaf yng Nghymru. Fodd bynnag, dim ond cyfnod byr wedi’r dathliadau daeth y newyddion bod Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn ystyried newid rôl Llywydd UMCA o fod yn llawn amser i fod yn rhan amser neu hyd yn oed gwirfoddol. Daeth y posibilrwydd hwn yn sgîl ystyriaethau i gael gwared ar un o swyddogion llawn amser yr Undeb oherwydd toriadau ariannol. Ymateb chwyrn sydd wedi bod i’r ystyriaeth gan fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol a thu hwnt.
Roedd Swyddogion Cymraeg Undebau Myfyrwyr Caerdydd, Abertawe a Bangor yn gyflym i fynegi eu cefnogaeth tuag at UMCA a’i Llywydd. Yn eu datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedon nhw “Mae’r Gymraeg yn hynod bwysig i fyfyrwyr yng Nghymru ac mae gweld bod Undeb Aber yn edrych ar y posibilrwydd o newid rôl Llywydd UMCA o fod yn un llawn amser yn bryderus iawn i ni.”
Ychwanegon nhw, “Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd eleni yn dathlu dim ond yr ail flwyddyn o Swyddog y Gymraeg llawn amser, ac mae wedi bod yn wych i gael cydweithio fel pedwar dros y pedair Prifysgol fwyaf yng Nghymru”.
Dywedon nhw’n glir, “Gwelwn fygythiad fel hwn ar y Gymraeg yn un sydd yn ddychrynllyd, ac yn peri gofid i fyfyrwyr – os all hyn ddigwydd yn Aberystwyth, gall ddigwydd ym mhob man arall!”
os all hyn ddigwydd yn Aberystwyth, gall ddigwydd ym mhob man arall!
Cefnogaeth gan sêr Cymru
Ymgasglodd myfyrwyr Cymraeg o brifysgolion ledled y wlad yn Aberystwyth ym mis Tachwedd ar gyfer y Ddawns Rhyng-golegol flynyddol i ddathlu’r un peth sydd gan bawb yn gyffredin – y Gymraeg. Yn ystod y digwyddiad perfformiodd sawl band Cymraeg megis Yws Gwynedd gydag arwydd â chôd QR yn arwain at y ddeiseb ‘Achub Dyfodol Llywydd UMCA’ ar flaen y llwyfan. Fe wnaeth Yws Gwynedd dynnu sylw yn benodol at yr achos, ac fe ymunodd Llywydd presennol UMCA, Elain Gwynedd, gyda’r band ar y llwyfan gan ddatgan bod digwyddiadau megis y ddawns rhyng-gol yn dyst i’r angen am Lywydd UMCA llawn amser.
Bellach, mae’r ddeiseb i achub y rôl llawn amser wedi casglu dros fil o lofnodion, ac mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi dweud na fydd newid i’r rôl yn dilyn y pryderon sydd wedi’u mynegi.
