Mae Gweinidog Seneddol Newid Hinsawdd ac Aelod Seneddol Plaid Cymru yn galw am weithrediad ar gyfer lleihau effaith newid hinsawdd ar y blaned a phobl ifainc.
Yn dilyn cyhoeddiad Rushi Suank, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, mi wnaeth Julia James, Gweinidog Newid Hinsawdd alw ar Micheal Gove, Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol Llywodraeth y DU.
Cyhoeddodd Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, fod oedi i’r targedau yn rhan o gynllun Sero Net.
Mae’r cynllun Cymru Sero Net yn gynllun i leihau allyriannau carbon er mwyn arwain Cymru i fod yn Sero Net erbyn 2050.
Mae’r cynllun Cymru Sero Net yn gynllun i leihau allyriannau carbon er mwyn arwain Cymru i fod yn Sero Net erbyn 2050.
Ysgrifennodd Gweinidog Newid Hinsawdd yr Alban, Mairi McAllan, ar y cyd gyda Julia James.
Roedden nhw’n honni yn y llythyr nad oedd Rishi Sunak wedi cyd-weithredu gyda’r llywodraethau datganoledig cyn y cyhoeddiad.
Roedd y llythyr hefyd yn atgyfnerthu eu rhwystredigaeth yn y “diffyg lefel o fanylder a oedd yn allweddol i gyhoeddiad mor arwyddocaol”.
Mae’r ddau Weinidog yn ymbil ar Rishi Sunak i ymateb ar frys er mwyn i Lywodraeth Yr Alban a Chymru i weithredu a gwneud y camau cywir.
Ymatebodd siaradwr dros Lywodraeth y DU gan ddweud “rydym ni’n gweithio’n agos gyda llywodraethau datganoledig i gyflwyno diogelwch Sero Net ac egni, gan gynnwys trwy y grŵp rhyngweinidogol ar gyfer Sero Net, egni a newid hinsawdd”.
Maen nhw hefyd am barhau gyda’r modd yma o gyfathrebu.
Cyhoeddodd Plaid Cymru eu bod am gyflwyno cyfraith er mwyn lleihau pryder hinsawdd neu bryder amgylcheddol ymysg pobl ifainc.
Mae’r termau ‘pryder hinsawdd’ a ‘phryder amgylcheddol’ yn golygu fod gan unigolyn bryder am ddyfodol y blaned oherwydd effeithiau negyddol amgylcheddol.
Gall hyn arwain at byliau o banig, pryder ac iselder.
Delyth Jewell, Aelod Seneddol ar gyfer de ddwyrain Cymru sy’n cadeirio’r Senedd yn nhrafodaethau Hinsawdd, Natur a Lles sydd wedi cyflwyno’r ddeddfwriaeth ar ran aelodau.
Mae’r cynnig am gyfraith newydd yn gobeithio i newid y cwricwlwm addysg er mwyn cynnwys cyfle i bobl ifainc sydd â diddordeb i ddeall difrifoldeb yr argyfwng newid hinsawdd.
Dywedodd Delyth Jewell yn ei chyhoeddiad “os ydyn ni’n normaleiddio siarad am ein teimladau ynglŷn â phryder hinsawdd a galar hinsawdd, byddwn ni’n rhoi cymorth i bobl ifanc i deimlo llai unig yn sut mae’n eu heffeithio nhw”.
Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd hefyd yn gobeithio bydd hyn yn hwb ar gyfer pobl ifainc i sylweddoli fod angen gweithredu a sut yn union mae gwneud hyn.

