Ers dechrau 2025, mae Pwyllgor Bys a Bawd Pawb wedi bod yn ymgyrchu dros gadw unig siop lyfrau Gymraeg Sir Conwy i fynd. Mae’r siop wedi bod ar agor ers 70 mlynedd, ac mae’n debyg mai hi oedd y siop lyfrau Gymraeg gyntaf yng Nghymru. Mae perchennog presennol y siop eisiau ymddeol, ac felly fe ddaeth y pwyllgor at ei gilydd eleni mewn ymgais i sicrhau parhad y siop.
Pwysleisia Nia Owen, sy’n aelod o’r pwyllgor, mai un o’r prif resymau dros ymgyrchu i gadw’r siop i fynd yw bod siopau llyfrau Cymraeg yn allweddol ar gyfer meithrin darllenwyr i’r dyfodol. “Da ni’n teimlo bod y gwasanaeth wyneb-ynwyneb yn hynod, hynod bwysig, a bod profiad plant o fynd i’r adran blant, a gweld cymeriadau fatha Sali Mali yn eu hannog nhw i ddarllen.” Mae Nia hefyd yn gweld y siop fel rhywle sy’n “adlewyrchu diwylliant a diddordeb yr ardal,” am fod “papurau bro hefyd yn cael eu gwerthu yn y siop.” “Mae hi’n siop sy’n gwerthu llyfrau, ond mae hi’n gymaint yn fwy na hynny.” Pwysleisia Jo Knell, perchennog siop lyfrau Cant a Mil yng Nghaerdydd, hefyd, fod siopau llyfrau Cymraeg yn ganolfannau allweddol i’r iaith, am eu bod yn lefydd lle mae pobl yn “gwybod bod rhywun yn mynd i fod yna sy’n siarad Cymraeg.” Ychwanega fod y siop yn rywle gall pobl ddod i ofyn cwestiynau am ddysgu Cymraeg, a chael gwybodaeth am ddigwyddiadau Cymraeg yn y Brifddinas, ac yn y blaen. Er hynny, mae nifer o heriau yn wynebu siopau llyfrau Cymraeg. Bu’n rhaid i Siop y Pethe yn Aberystwyth, Siop y Pentan yn Llanelli, a Pethe Powys yn y Trallwng, gau eu drysau dros y deunaw mis diwethaf.

Un o’r prif heriau, yn ôl Jo, yw nad oes digon o bobl yn ymwybodol o fodolaeth y siopau hyn, nac o’r hyn y gallan nhw ei gynnig. “I bob pwrpas ni’n cystadlu yn erbyn cwmnïoedd byd-eang, a ni’n un siop fach. Mae’r hinsawdd yn anodd iawn i siopau bach.” Hoffai weld mwy o bobl yn “gwerthfawrogi ein bod ni’n annibynnol, ein bod ni yma yn siarad Cymraeg, a bod gyda ni lawer i’w gynnig.” “Unwaith mae siop yn mynd, mae’n anodd iawn, iawn, i rywun gamu mewn ac ail-ddechrau hwnna.” Creda Jo felly y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi siopau Cymraeg. Pwysleisia fod “pob siop Gymraeg yn gwneud gwaith pwysig iawn iawn, a dyw hynny ddim yn cael ei werthfawrogi yn genedlaethol.” Hoffai weld y Llywodraeth yn cynnal ymgyrch hysbysebu cyhoeddus sy’n dangos beth mae siopau llyfrau Cymraeg yn gwneud o ran yr iaith.
O ran y cyhoedd, pwysleisia fod cefnogi siopau llyfrau Cymraeg yn ddigon syml i’w wneud. “Ni gyd yn prynu ar-lein, mae jyst yn fater o ddewis i brynu ar-lein o siop Gymraeg.” “Mae’n fater o pobl yn dweud wrth eu ffrindiau, rhannu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol – pethau fel’na sy’n helpu i gael pobl i sylweddoli [ar bwysigrwydd prynu o siopau annibynnol], ac i drosglwyddo hwnna mewn i ymddygiad wedyn.”
