Y 7fed o Chwefror, 2025 – yn sicr, dyma ddyddiad allweddol a ddylai’n sicr fod wedi’i nodi’n eich dyddiadur wrth i ni fel Cymry fynd ati i ddathlu ‘Dydd Miwsig Cymru.’ Cyfle penigamp i ni fel trigolion ‘gwlad y gân’ ymfalchïo nid yn unig yn ein Cymreictod ond yn ein cerddoriaeth Gymraeg gan sicrhau fod llwyfan yn cael ei gynnig i artistiaid Cymreig newydd. Waeth beth yw eich hoff gyfrwng cerddorol, boed yn opera, indi, pop neu roc – mae ‘Dydd Miwsig Cymru’ yn gyfle i ddathlu cerddoriaeth Gymraeg sydd at ddant pob un ac yn fwy o reswm nac erioed i ddangos ein gwerthfawrogiad tuag at artistiaid sy’n cyfrannu i’r sîn gerddoriaeth wych yma yng Nghymru.

Mewn sgwrs ddiweddar ar-lein, dyma oedd gan Elin Fflur, y gantores a’r gyflwynwraig o Ynys Môn i’w ddweud wrthyf am bwysigrwydd y diwrnod. “Mae cael diwrnod wedi ei benodi i gerddoriaeth Gymraeg yn bwysig tu hwnt. Mae gyno ni gerddorion arbennig yma. Mae angen diwrnod fel ‘ma i dynnu sylw a chodi ymwybyddiaeth o’r hyn ‘da ni’n greu yn y Gymraeg a hefyd i ddathlu yr hyn ‘da ni’n greu ymysg ein gilydd. Dydd Miwsig Cymru Hapus i bawb!”

Sut allai fynd ati i ddathlu?

Di-ddiwedd oedd y cyfleoedd oedd ar gael i ddathlu’r diwrnod arbennig hwn. Pa ffordd well o wneud hynny ‘na mewn steil wrth ymuno â’r cynulleidfaoedd mewn un o’r gigs a oedd yn cael eu cynnal ledled Cymru? Ond, ble oedd y gigs hyn yn cael eu cynnal? Yn ffodus iawn, bu i wefan awni.cymru gael ei sefydlu ym mis Ionawr sy’n cynnwys map rhyngweithiol o bob gig nid yn unig yng Nghymru ond gan artistiaid Cymraeg tu hwnt i’r ffin a hynny gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, dyma flas ar y wefan o’r gigs a gafodd eu cynnal ar Ddydd Miwsig Cymru eleni:

Gwilym Bowen Rhys Trio + Cadog; Neuadd Goffa, Trefdraeth.

Bwca + Lafant + Chwaer + O.P Edwards; Bar Seler, Aberteifi.

Meinir Gwilym; Saith Seren, Wrecsam

Rhys Meirion; Y Llew Coch, Llansannan.

Alffa, Mali Hâf a Tesni Hughes; Rascal’s Bangor.

Hue Aye Rebals; Tafarn yr Iorwerth, Bryngwran.

Am wybodaeth bellach, ymwelwch â https://awni.cymru/

Ymweld â gig ddim yn mynd a’ch bryd? Digon o gyfleoedd eraill oedd ar gael i ymgolli yn y dathliadau drwy wrando ar eich hoff gerddoriaeth Gymraeg ar sawl platfform. Beth am ddechrau wrth wrando ar ‘Rhestr Chwarae Goreuon Cymru’ ar Spotify neu ‘Traciau Dydd Miwsig Cymru’ gan BBC Radio Cymru?

Er mai un diwrnod o ddathlu yw Dydd Miwsig Cymru nid yw hynny’n ein rhwystro fel Cymry rhag ymfalchïo gydol yr amser ym modolaeth a llwyddiant cerddoriaeth Gymraeg. Mae angen i gerddoriaeth Gymraeg gael ei chydnabod ac i Gymru, ‘gwlad y gân’ gael ei rhoi ar y map.

DyddMiwsigCymruHapus!