Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Tiktok wedi prysur droi o fod yn blatfform llawn dawnsfeydd a lip-syncs i fod yn safle digidol lle mae ieithoedd lleiafrifol yn ffynnu. Gyda phobl ifanc yn treulio cyfran sylweddol o’u hamser ar gyfryngau cymdeithasol, mae ymchwil diweddar yn dangos bod presenoldeb y Gymraeg ar blatfformau fel Tiktok yn hollbwysig i dwf yr iaith ymhlith pobl ifanc. Mae’r Gymraeg bellach yn cael ei ddefnyddio, ei ddysgu, a’i hyrwyddo ar Tiktok gyda’r hashnodau #Cymraeg â 26.3 mil o bostiadau a #Welshtiktok â 139.5 mil o bostiadau yn dangos twf y gymuned Gymraeg arni.
Un o’r rhai sy’n arwain y twf yma yw Alys-Mai, cyn-fyfyriwr Prifysgol Caerdydd. Yn wreiddiol o Rydaman, mae Alys, sydd â bron 5,000 o ddilynwyr ar Tiktok, wedi cyfrannu at wneud y Gymraeg yn fwy gweledol ar yr ap. “Ges i ysbrydoliaeth organig o influencers Saesneg ar Tiktok ond wedyn ‘nath e ddod yn naturiol i fi neud e yn Gymraeg. Byse fe ddim yn neud synnwyr i fi neud e yn Saesneg achos fi’n siarad Cymraeg yn rhugl bob dydd” meddai.
Ychwanegodd ei bod hi wedi datblygu ei chynnwys i gynnwys mwy o Gymraeg gan fod pobl yn mwynhau’r cynnwys hwnnw. Gyda mwy yn troi at greu cynnwys yn y Gymraeg, mae Alys yn teimlo bod twf sylweddol wedi bod o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ar-lein dros y blynyddoedd diwethaf. “Fi’n credu bod y bobl sydd yn ddigon hyderus i rannu eu siwrne nhw ar Tiktok wedi ysbrydoli pobl arall i neud e, a ma’ fe jyst wedi datblygu a datblygu a datblygu. Mae bron â bod fel trend” meddai.
Mae hi’n gobeithio bod y defnydd o’r Gymraeg ar-lein yn annog pobl i ddysgu’r iaith neu i’w ddefnyddio yn amlach yn eu bywyd bob dydd. Yn ogystal ag annog y defnydd o’r Gymraeg, yn ôl Alys mae cynnwys Cymraeg ar Tiktok yn newid agwedd pobl tu hwnt i Gymru am yr iaith Gymraeg. “Fi di cael rhywun yn commentio ar Tiktok fi o’r Almaen a dweud wow pa iaith yw hwn? Felly, ma’ fe yn dangos i bobl tu hwnt i Gymru bod iaith a diwylliant gyda ni” meddai.
Er hyn, mae hi dal yn her i gynnwys Cymraeg gyrraedd cynulleidfaoedd mawr gyda rhai crewyr cynnwys yn penderfynu peidio defnyddio’r iaith ar eu sianeli. Soniodd Alys “Nawr ac yn y man, fi’n neud Tiktoks Saesneg achos allen i ddadle mai dyna sydd eisiau neud i gyrraedd cynulleidfa ehangach. Ond fi’n gobeithio, os mae rhywun am ddilyn fi taw cynnwys Cymraeg ma nhw’n gweld y mwyaf ohono a bo’ fi’n gysylltiedig gyda chreu cynnwys Cymraeg.” Mae Tiktok felly wedi datblygu bellach fel arf bwerus i’r Gymraeg, platfform lle mae pobl ifanc yn defnyddio’r iaith yn naturiol ac yn hyderus, o bob safon.
Mae crewyr cynnwys fel Alys-Mai yn profi bod yr iaith yn perthyn i’r byd digidol ac y gall cynnwys Cymraeg chwarae rhan bwysig yn nyfodol yr iaith Gymraeg.

