Yn dilyn newidiadau Llafur i dreth etifeddiant ar ffermydd, mae ffermwyr yn pryderu am ddyfodol ei ffermydd.

Amcangyfrifodd y llywodraeth y bydd 27% o ffermydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau, fodd bynnag mae’r Undeb Ffermwyr Cenedlaethol – NFU, yn dweud y bydd 75% o ffermydd yn uwch na’r trothwy o Dreth Fferm Deuluol o £1 miliwn.

Teithiodd ddegau ar filoedd o ffermwyr Prydain i Lundain i brotestio yn erbyn hyn.

Beth yw’r dreth etifeddiant?

Mae Treth Etifeddiant (IHT) yn dreth o 40% ar werth ystâd person ar ôl iddyn nhw farw, gan gynnwys eiddo, meddiannau ac arian. Dim ond ar symiau sy’n uwch na’r trothwy di-dreth presennol o £325,000 y mae’n berthnasol.

Ers 1984 mae ffermwyr a pherchnogion tir amaethyddol wedi bod yn eithriedig o’r Dreth Etifeddiaeth, gyda rhyddhad trethi sy’n berthnasol i ystadau. Mae dau gategori eang gyda bob un yn cynnig rhyddhad llwyr o’r dreth.

O Ebrill 2026, bydd treth o 20% ar dir ac asedau amaethyddol gwerth dros £1 miliwn. Mae undebau amaethyddol yn rhybuddio y bydd y rhan fwyaf o ffermydd yn cael ei effeithio gan y trothwy hwn oherwydd prisiau tir uchel er nad yw ffermwyr yn gwneud elw mawr.

Dinistrio ffermydd teuluol a bygwth cynhyrchu bwyd

Mae ffermwyr yn mynnu y bydd y dreth yn dinistrio ffermydd teuluol ac yn bygwth cynhyrchu bwyd, tra bod y llywodraeth yn honni fod hyn yn hanfodol i godi arian. Mae’r Trysorlys yn amcangyfrif y bydd y newidiadau hyn yn codi hyd at £520 miliwn y flwyddyn.

Yn ystod yr wythnos diwethaf mae 20,000 o ffermwyr wedi bod yn protestio yn Llundain i alw ar y llywodraeth i ddiddymu’r rheolau treth etifeddiaeth.

Yn ôl ymgyrchwyr, bydd ffermwyr sydd â llawer o asedau ond sydd ag incwm isel yn cael eu gorfodi i werthu’r tir i dalu’r dreth, gan beryglu diogelwch bwyd a pheri gofid i ddyfodol ffermydd teuluol.

Yn ôl ystadegau Defra Data, mae 30% o ffermydd wedi gwneud colled llynedd, tra bod 25% arall wedi gwneud llai na £25,000 y flwyddyn.

O dan y rheolau presennol, gall ffermwyr roi eu fferm i aelodau o’u teulu heb dalu treth, os gwneir hynny oleuaf 7 mlynedd cyn eu marwolaeth. Fodd bynnag mae ymgyrchwyr yn honni bod llawer o ffermwyr hŷn yn pryderu nad ydynt yn cael y cyfle hwn, gan nad oes amser ar gael iddynt neu oherwydd nad yw eu busnesau fferm yn gallu goroesi’r newid yn y rheolau, gan ei wneud yn anoddach i drosglwyddo’r busnesau hyn yn ddi-dreth.

Enw cyfarwydd a ddangosodd ei gefnogaeth i ffermwyr yn y brotest oedd Jeremy Clarkson. Dywedodd fod angen i’r llywodraeth fod yn “ddigon mawr” i gydnabod eu bod wedi “gwneud camgymeriad” trwy gyflwyno’r dreth yma.

Ymateb y Prif Weinidog

Dywedodd y Prif Weinidog, Kier Starmer wrth gynhadledd yn Llandudno, Conwy, y byddai’n amddiffyn y gyllideb “drwy’r dydd” am wneud “penderfyniadau anodd a oedd yn angenrheidiol i sefydlogi ein heconomi.”