Gwelwyd gwrthdaro ffyrnig ar draws Gymru trwy brotestio a chynadleddau ar ôl cyhoeddiad cynlluniau dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae’r gwrthdaro wedi sbarduno ar draws Gymru drwy ‘streicio araf’ a phrotestio gan rwystro traffig mewn nifer o ardaloedd fel Y Drenewydd (Canolbarth) a Chaerfyrddin (De Orllewin).

Gwnaeth cynhadledd yng Nghaerfyrddin ar yr 8fed o Chwefror denu 3,000 o ffermwyr lleol roedd yn gwrthwynebu'r polisi newydd. Mi ddaeth wynebau cyfarwydd ymlaen i gefnogi’r gynhadledd gwnaeth ddenu sylw’r cyfryngau megis Nigel Owens. O’r fan yma, trefnwyd ‘protest araf’ fel arwydd o anfodlonrwydd y cymunedau lleol ar yr A48 rhwng Pensarn a Cross Hands, dydd Gwener yr 16eg o Chwefror.

Bu’r protestiadau diweddar ledled Cymru o ganlyniad i Gynllun Ffermio Cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar y 14eg o Ragfyr, 2023. Cyhoeddwyd y polisi newydd yma yng Nghymru fel ffordd o “paratoi at y dyfodol trwy dargedu costau uwch a’r argyfwng hinsawdd.” – Llywodraeth Cymru. Bu’r newidiadau yn cychwyn mor gynnar ag 2025, a ddylai fod wedi cwblhau erbyn 2029 sef y ‘cyfnod pontio’.

Gofynnai’r polisi i ffermwyr blannu coed ar 10% o’u tir a chadw 10% o’u tir a’i thrin fel cynefin bywyd gwyllt fel y prif ofynion. Mae ffermwyr yn gwrthdaro yn erbyn hyn oherwydd y ‘diffyg mewnwelediad o safbwynt y ffermwyr’ gan y cyhoedd. Yn ogystal â sefyllfa bresennol y diciâu yng Nghymru a’r ymdriniaeth gan y Llywodraeth tuag at y pwnc llosg.

Fel y dywed Lesley Griffiths (Gweinidog Materion Gwledig) o fewn y cynllun ei fod yn; “gynaliadwy fel dechrau rhaglen hir dymor i gefnogi’r diwydiant amaethyddol.” Rhad i holl ffermwyr cydymffurfio a’r gofynion er mwyn derbyn y taliadau sylfaenol cyffredinol.

Datganai Drakeford mewn cynhadledd i’r Wasg am y pwnc fod “newid yn anochel.”

Dadleua Drakeford yn ystod y gynhadledd hefyd, “ni all arian cyhoeddus fod yn fewnbwn i amaeth yng Nghymru heb farn y cyhoedd yn rhan o’r cynlluniau, ac ni gall y ffermwyr gwneud beth bynnag a hoffent gyda’r arian.”

Ymatebai Llywydd Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru (NFU) Aled Rees i’r hyn roedd gan Drakeford i ddweud am y mater; “Mae yna ddiffyg cydnabyddiaeth am yr hyn mae amaethyddiaeth yn cyfrannu i’r gymdeithas yn bresennol.” Datganai aelodau o’r Senedd o bleidiau Ceidwadol a Phlaid Cymru fod y datganiadau gan Drakeford yn “diffyg dirmyg tuag at ffermwyr” – Andrew RT Davies, a bod y sylwadau yn uwcholeuo “diffyg cysylltiad” rhwng cymunedau trefol a chefn gwlad Cymru – Llŷr Gruffydd (Siaradwr Cyhoeddus materion gwledig Plaid Cymru).