Mae’r iaith Gymraeg o hyd yn bwnc llosg, gyda phrotestiadau a gwrthdaro rhwng llywodraethau a’r Cymry.
Mae’r Gymraeg yn iaith Frythoneg, gyda tharddiad Celtaidd Prydeinig a chafodd ei siarad ym Mhrydain cyn goresgyniad y Rhufeiniaid. Roedd un o’r geiriau Cymraeg cyntaf i gael e gofnodi wedi’i arysgrifio tua 700 OC ar garreg fedd yn eglwys Sant Cadfan yn Nhywyn, yn sir hanesyddol Sir Feirionnydd. Fodd bynnag, credir bod y Gymraeg ysgrifenedig cyntaf yn dyddio’n ôl 100 mlynedd arall.
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nid oedd y Gymraeg yn rhan o gwricwlwm yr ysgol. Saesneg oedd prif iaith strydoedd, gweithleoedd a chartrefi Cymru. Fodd bynnag, yn yr ugeinfed ganrif, roedd cydnabyddiaeth gynyddol o wahaniaethu yn erbyn y Gymraeg a’i siaradwyr. Gwelwyd hyn yn y modd nad oedd gan ddiffynyddion yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y llysoedd ond arweiniodd Ddeddf Llysoedd Cymru at dro pedol yn y maes hwn.
Mae’r iaith wedi gweld twf aruthrol ers hynny gyda thua 538,000 o bobl yn nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg, yn ôl cyfrifiad 2021. Mae’r Gymraeg nawr yn iaith sy’n cael ei chofleidio a’i siarad yn gymdeithasol ac yn wleidyddol.
Yn ogystal â hyn, mae’r iaith nawr i’w gweld ar lwyfan rhyngwladol Netflix. Cyfres Dal y Mellt yw’r cynhyrchiad Cymraeg cyntaf i gael ei ddangos ar y gwasanaeth ffrydio byd-eang.
Mae Cymru’n gwneud ymdrechion parhaus i hybu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Mae newid diweddar wedi gweld Prifysgol Wrecsam yn cynnwys mwy o gynnwys Cymraeg ar fodiwlau o fewn eu graddau. Y radd Therapi Iaith a Lleferydd fydd y cwrs cyntaf yn y brifysgol i gynnig opsiynau astudio dwyieithog o fis Medi ymlaen.
Mae dyfodol yr iaith yn un sy’n ddisglair gydag ymdrechion dyddiol o hyrwyddo’r iaith yn arwain at gynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg ledled Cymru.

