Mae Hansh wedi rhyddhau ail gyfres o’u podlediad ‘arloesol’ Ar Led, sy’n trafod iechyd meddwl a lles pobl ifanc. Gwnaeth criw o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ymddangos ar un rhifyn i drafod yr heriau sy’n eu hwynebu o ddydd i ddydd yn y Brifysgol. Mae’r gyfres yn ehangach yn edrych ar ystod o brofiadau, gan gynnwys cyflyrau cyffredin fel gor-bryder ac iselder, a phynciau fel delwedd y corff, straen, niwroamrywiaeth a galar.

Un o’r myfyrwyr wnaeth siarad ar y rhaglen yw Teifi Mead, sy’n astudio yn ei ail flwyddyn. Yn ôl Teifi, rhai o’r prif ffactorau sy’n rhoi straen ar fyfyrwyr yw ‘arian, pwysau gwaith a’r cymhlethdod o fyw bywyd cwbl newydd mewn cyfnod bregus mewn bywyd.’ Ar y rhaglen, mae’r tri myfyriwr yn siarad am y problemau hynny mewn ffordd sy’n ‘agored ac yn onest,’ yn ogystal â rhannu eu ‘top tips’ i fyfyrwyr newydd. Dywedodd cyflwynydd y rhaglen, y meddyg iau Ffraid Gwenllian, bod y gyfres yn ‘ofnadwy o bwysig’ am ei bod yn ymwneud â phynciau ‘sy’n aml yn cael eu hystyried yn tabŵ o fewn cymdeithas.’ ‘Mewn gwlad fach fel Cymru, lle mae pawb yn nabod ei gilydd, mae pethau tabŵ yn gallu teimlo hyd yn oed yn fwy tabŵ weithiau.’ Ychwanegodd Teifi ei bod hi’n bwysig cynnal trafodaeth ar straen myfyrwyr oherwydd ‘dyw’r probleme ma ddim yn cael digon o ymwybyddiaeth o fewn gohebu a newyddiaduraeth arferol.’ Gwnaeth Cadi Davies, myfyriwr blwyddyn gyntaf, fwynhau gwrando ar y podlediad am ei fod yn cynnig rhywbeth ‘unigryw a phersonol’ i siaradwyr Cymraeg. ‘Wrth gwrs, ma lot o bethe Saesneg mas fynna a ma nhw’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn, ond mae’r ffaith fod y gyfres hon ar gael yn y Gymraeg yn neud i’r cwbl deimlo’n fwy agos-atoch.’ ‘Mae hi’n gyfres arloesol beth bynnag, ond mae’r ffaith bod y sgyrsiau yma’n digwydd yn Gymraeg yn ei gwneud hi hyd yn oed fwy arloesol,’ meddai Ffraid.

Teifi Mead in a podcast studio.
Photograph: Hansh

Mae’r gyfres ar gael ar S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube Hansh. Cyngor Teifi i fyfyrwyr sy’n delio â straen yw, ‘yn syml, siaradwch.’ ‘Ma pawb fel arfer yn teimlo’n debyg, hyd yn oed os dyw e ddim yn amlwg i bawb. Os ma da chi rhyw fath o ‘support network’ fel ma nhw’n dweud, boed hynny yn ffrindie, teulu, cariad, neu warchodwyr – ma siarad yn gallu helpu gyment o broblemau.’ Image Credit, Hansh