Dydd Mawrth (14 Hydref 2023) cafodd sgwrs ei chynnal yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd i drafod a chodi pryderon dros sefyllfa dai presennol myfyrwyr yng Nghaerdydd.
Yn ogystal â, hyn cafwyd trafodaeth am bryderon unigolion am eu cymunedau adref.
Yn ôl Undeb Myfyrwyr Caerdydd: ‘Mae angen newid y ffordd mae’r system dai yn gweithio yng Nghymru.
Mae angen sicrhau tai teg i fyfrwyr tra ein bod ni’n astudio ac yn ein cymunedau ar draws y wlad.’

Yn ôl ffigyrau Cardiff Student Community Partnership ac Undeb Myfyrwyr Caerdydd, mae dros 6,000 yn fwy o fyfyrwyr llawn amser wedi cofrestru yng Nghaerdydd eleni i gymharu efo 2019.
O ganlyniad i hyn, mae dros 96% o safleoedd PBSA (Purpose-Built Student Accommodation) yn llawn ym mis Mai 2023.
O ganlyniad i hyn, mae’r Undeb Myfyrwyr wrthi’n gweithio i wella sefyllfa dai myfyrwyr yng Nghaerdydd, er mwyn sicrhau fod gan bob myfyriwr man i fyw, gweithio ac i gymdeithasu ynddo.
Yn ogystal ag sicrhau fod yna ddigon o neuaddau,tai a llety ar gael ar gyfer nifer cynyddol o fyfyrwyr sy’n penderfynu astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn ogystal ag Undeb Myfyrwyr Caerdydd, roedd cynrychiolaeth o Gymdeithas yr Iaith, Owain Meirion, yn bresennol yn y cyfarfod i drafod am sefyllfa presennol y farchnad tai yng Nghymru gyfan.
Yn ôl Owain: ‘Mae 90 mil o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd ar restrau aros ar gyfer tai cymdeithasol ac mae dros 10 mil yn ddigartref mewn llety dros dro.’
O ganlyniad i hyn, mae Cymdeithas yr Iaith yn gweld effeithiau diffyg argaeledd tai ar cymunedau leol ar draws y wlad.
Yna yn rhannu eu pryderon dros sefyllfa dai myfyrwyr Caerdydd oedd ‘Cymdeithas Plaid Cymru Ifanc Prifysgol Caerdydd’ teimlai’r gymdeithas fod diffyg wybodaeth clir a dealltwriaeth am farchnad tai myfyrwyr yn gamarweiniol.
Hefyd gwel y gymdeithas effaith y farchnad tai ar ei cymunedau leol ac teimlai llawer na fydd hi’n bosib iddynt ddychwelyd adref yn y dyfodol.
