Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd Geraint Evans yn ymgymryd â rôl Prif Weithredwr y sianel yn barhaol ar ôl cyfnod cythryblus i’r sianel. Penodwyd Geraint Evans yn Brif Weithredwr Dros Dro’r sianel ym mis Ebrill 2024 am chwe mis ac ar Dachwedd 12fed 2024 cyhoeddwyd ei fod wedi ei benodi’n barhaol.

Tan iddo symud i S4C yn 2019, bu Geraint Evans yn newyddiadurwr gyda ITV Cymru am 25 mlynedd. Symudodd i S4C i ymgymryd â rôl Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes a fu tu ôl i sefydliad gwasanaeth newyddion digidol S4C cyn iddo ddod yn Gyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi yn 2023.

“wir yn fraint”

Dywedodd Geraint Evans ei bod yn “fraint” i gael ei benodi’n Brif Weithredwr parhaol ar y sianel mae wedi “gwylio a chynhyrchu cynnwys iddi ar hyd fy ngyrfa”.

“Mae gan S4C rôl allweddol i’w chwarae i alluogi pobl i fyw eu bywydau drwy’r Gymraeg, i ddenu siaradwyr newydd ac i gynnal y Gymraeg fel iaith fyw a pherthnasol”. Daeth ei benodiad fel Prif Weithredwr Dros Dro’r sianel am chwe mis yn sgîl ymddiswyddiad Sian Doyle ym mis Tachwedd 2023 yn dilyn ymchwiliad i ddiwylliant y sianel a ddaeth i’r casgliad bod ei harweinyddiaeth yn “unbenaethol” a’i bod hi’n “creu diwylliant o ofn”. Arweiniodd hyn at ymddiswyddiad Cadeirydd y sianel, Rhodri Williams ym mis Mawrth 2024 gyda Guto Bebb yn ymgymryd â’r rôl Dros Dro.

“arweinydd naturiol all uno staff a rhanddeiliaid”

Wrth ymateb i benodiad parhaol Geraint Evans fel Prif Weithredwr, dywedodd Guto Bebb y bydd Geraint Evans yn dod â “chyfoeth o brofiad a dealltwriaeth am y diwydiant yma yng Nghymru a thu hwnt i’w swydd newydd”.

“Fel y cyfarwyddwr sydd wedi bod yn arwain ar ddatblygiad digidol y sianel, mae ganddo weledigaeth glir o’r llwybr sydd angen i S4C i’w gymryd os am sicrhau dyfodol llewyrchus” meddai.

Ar ei benodiad, soniodd Geraint Evans am yr heriau sy’n wynebu’r sianel tua’r dyfodol hefyd.

“Wrth i’n harferion gwylio newid, mae’n hanfodol bod S4C yn newid - ac yn denu, yn ysbrydoli ac yn diddanu ein cynulleidfaoedd, ar ba bynnag blatfform maen nhw’n dewis gwylio” meddai.

“angerdd a gweledigaeth o gael sianel sy’n gwasanaethu Cymru gyfan.”

I gloi, dywedodd ei fod yn “edrych ‘mlaen at yr her, gan wybod bod timau talentog a chreadigol yma’n S4C, yn y sector gynhyrchu ac ymhlith ein rhanddeiliaid allanol”.

Mae disgwyl i Geraint Evans ddechrau ar ei rôl fel Prif Weithredwr ym mis Ionawr 2024 gyda Sioned Wiliam yn parhau fel Prif Weithredwr Dros Dro yn y cyfamser.