Wrth i’r haf nesáu a’r deadlines yn dod i ben, mae un penwythnos arbennig ar y gorwel Tafwyl! Oes ‘na well ffordd i ddathlu diwedd y tymor na gyda pheint o gwrw lleol yn eich llaw yng nghanol Parc Biwt? Mae’r ŵyl Gymraeg hon, sydd bellach wedi hawlio’i lle fel un o ddigwyddiadau mwyaf eiconig Cymru, yn dychwelyd i Barc Biwt ar y 14-15fed o Fehefin.
Ac...mae’n gwbl rhad ac am ddim! Dechreuodd Tafwyl fel digwyddiad cymharol fach yn y Mochyn Du, ond bellach, mae’r ŵyl wedi tyfu yn un enfawr sy’n denu miloedd o bobl i fwrlwm y brifddinas bob haf. O sesiynau coginio i weithdai creadigol i gigs byw gan artistiaid mwyaf adnabyddus y sin gerddoriaeth Cymraeg, mae rhywbeth at ddant pawb yno.
Un o lwyddiannau mawr Tafwyl yw eu cynllun ‘Yn Cyflwyno’ i artistiaid ifanc. Mae’r cynllun yn un sy’n rhoi cyfle i berfformwyr newydd i gyfansoddi, gigio yn Clwb Ifor Bach ac ymddangos ar lwyfan Yurt T. Mae bandiau fel Taran a Dadleoli wedi manteisio yn llwyr ar hyn gyda Taran yn rhyddhau eu EP cyntaf ‘Dyweda, Wyt Ti...” ac yn perfformio yn gyson ledled Cymru, tra bod Dadleoli hefyd wedi rhyddhau eu EP ‘Fy Myd Bach I’ yn 2023.
A chofiwch, nid gŵyl i siaradwyr Cymraeg yn unig yw Tafwyl. Dyma ŵyl sydd yn cynnig croeso cynnes i bawb. Mae pabell arbennig i ddysgwyr ac mae digon o gyfleoedd i ymarfer y Gymraeg ar hyd y maes.
Mae’r line-up eleni yn cynnig cymysgedd gwych gyda Fleur de Lys a Diffiniad yn ‘headliners’ ac ‘afterparty’ swyddogol Clwb Ifor Bach i’r rheiny sy’n mentro! Mae Tafwyl yn fwy na gŵyl, mae’n gyfle. Cyfle i brofi’r Gymraeg yng nghanol bwrlwm y brifddinas, darganfod cerddoriaeth newydd a mwynhau peint (neu ddau) yn yr haul.
Os wyt ti’n fyfyriwr yn y brifysgol sy’n chwilio am wyliau newydd i drio, rho Tafwyl ar y bucketlist haf ‘ma. Pam lai?

