Dwi’n siŵr eich bod chi wedi clywed chwedlau gwahanol wrth fynd trwy eich bywydau. O’r stori am Bendigeidfran yn marw o ganlyniad i gael gwaywffon yn ei droed, i Gantre’r Gwaelod yn cael ei foddi o dan y môr, mae cannoedd o chwedlau wedi dod i’r amlwg yn ein gwlad dros y miloedd o flynyddoedd diwethaf—ac felly mae’n rhaid gofyn y cwestiwn, o le ddaw’r chwedlau yn wreiddiol? Faint o wirionedd sydd tu ôl i’r straeon yma a wnaeth mam-gu ddarllen i chi cyn mynd i gysgu?
Dwi’n credu ei fod yn gwneud synnwyr i ddechrau gydag un o fy hoff chwedlau, sy’n boblogaidd iawn ar draws y byd—sef Chwedl Gelert. Mae’r chwedl mor enwog fod y lleoliad Beddgelert yng Ngwynedd wedi cael ei enwi ar ei ôl, neu dyna beth mae’r mwyafrif yn meddwl... Yn y chwedl, mae Llywelyn yn lladd ei hoff gi, Gelert ar ôl meddwl ei fod wedi lladd ei etifedd.
Mewn gwirionedd, fe wnaeth Gelert amddiffyn y babi rhag y blaidd, ond pan sylweddolodd Llywelyn hyn, roedd hi’n rhy hwyr. Felly rhoddodd gladdedigaeth urddasol oedd yn addas i farchog i Gelert. Ni wnaeth Llywelyn wenu byth eto.
Dyma’r bedd rydym yn ei weld ym Meddgelert, sy’n adrodd y stori ar garreg. Yr unig gwestiwn sydd ar ôl i’w gofyn yw, a gafodd Gelert wir ei gladdu yn y bedd yma? Wel, ar ôl ymchwilio, dydy’r ateb ddim beth fyddech chi’n disgwyl!
Mae’r stori fel rydym yn ei hadnabod yn dod o’r 18fed ganrif, ar ôl i David Pritchard, rheolwr y gwesty ‘Goat Hotel’, oedd yn lleol i Feddgelert, addasu’r stori wreiddiol trwy enwi’r ci yn Gelert a chynnwys Llywelyn – un o enwau pwysicaf hanes Cymru – er mwyn iddo gynyddu twristiaeth yn yr ardal, ac yn fwy pwysig, creu mwy o arian! Gyda help y trigolion lleol, fe lwyddodd Pritchard i greu’r bedd ar gyfer y ci, a chynyddu’r dwristiaeth gymaint mae dal yn atynnu pobl hyd heddiw. Mewn gwirionedd, mae’n eithaf tebygol fod y dref wedi cael ei henwi ar ôl ‘Celert’, a oedd yn Genhadwr Cristnogol a wnaeth symud i’r ardal yr holl ffordd nôl yn yr 8fed ganrif, bron 1000 o flynyddoedd cyn i’r stori ymddangos yn yr ardal!
Erbyn hyn beth bynnag, mae’r chwedl yn cael ei gweld ar draws y byd fel symbol o beidio gwneud dewisiadau byrbwyll mewn eiliadau o emosiwn, ac felly mae’r stori enwog hon yn bwysig iawn i’n hanes ni fel Cenedl.
