Ni fydd streiciau na boicot marcio yn digwydd ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis mai, ac felly ni fydd unrhyw darfu ar raddio myfyrwyr yr haf hwn. Mae Prifysgol Caerdydd wedi cadarnhau na fydd unrhyw ddiswyddiadau gorfodol tan ddiwedd 2025, o ganlyniad i nifer sylweddol o ymadawiadau gwirfoddol gan staff. Fodd bynnag, nid yw’r cytundeb hwn yn berthnasol ar ôl 2025, gan adael dyfodol ansicr i dros 1,200 o staff.

Er bod y streiciau wedi’u gohirio, mae staff a myfyrwyr yn parhau i deimlo ansicrwydd ynghylch dyfodol adrannau a darpariaeth academaidd. Canslo’r Streiciau Yn wreiddiol, roedd UCU (Undeb Colegau a Phrifysgolion) wedi bwriadu cynnal streic ar y 1af o Fai, gyda boicot marcio yn dechrau o’r 6ed o Fai, a streiciau pellach yn ystod mis Mehefin. Bellach mae hyn wedi’i ohirio yn sgìl y cytundeb dros dro.

Graduates raising mortarboards

Yn y bleidlais statudol, pleidleisodd 64% o aelodau UCU, ac o’r rhain, cefnogodd dros 80% y streic a’r boicot marcio. Dyma’r ganran uchaf erioed i’r gangen yng Nghaerdydd. Roedd y boicot marcio yn bygwth tarfu’n sylweddol ar raddio myfyrwyr, fel y digwyddodd yn 2023.

Bryd hynny, ddigwyddodd anghydfod cenedlaethol ynghylch cyflogau ac amodau gwaith i staff, ynghyd â bygythiadau toriadau ar gyrsiau. Yn ôl Beca Bowen, myfyrwraig ail flwyddyn sy’n astudio Cymraeg ac Athroniaeth: “On i’n falch o glywed o ran y staff bod eu swyddi nhw’n ddiogel am y tro. Ond dwi’n ymwybodol fod y broblem dal i fodoli yn hir dymor, ac am ein effeithio yn y dyfodol, sy’n codi pryder.” Er bod y niferoedd diswyddiadau arfaethedig wedi gostwng o 400 i 286, mae cannoedd o staff dal i wynebu’r posibilrwydd o golli eu gwaith.

Nid yw’r cytundeb yn rhoi unrhyw sicrwydd i swyddi ar ôl 2025, ac mae cynlluniau i gau adrannau fel Cerddoriaeth, Ieithoedd Modern, Hanes Hynafol a Diwinyddiaeth yn dal i gael eu hystyried. Mae cynigion i uno adrannau dal yn fantol. Er gwaethaf galwadau’r UCU, sydd wedi beirniadu’r toriadau fel rhai “creulon ac yn ddiangen”, mae’r brifysgol yn gwrthod defnyddio’r £506 miliwn sydd ganddi mewn cronfeydd wrth gefn i leihau effaith y toriadau.

Mae’r cyfnod ymgynghori wedi’i ymestyn tan 30ain o Fehefin 2025, gan roi mwy o amser i’r brifysgol a’r undebau i drafod eu camau nesaf. Disgwylir i Gyngor y Brifysgol gyfarfod ar 17eg o Fehefin i gadarnhau’r cynllun terfynol. Bydd amserlen dros dro yn cael ei chyhoeddi yn y cyfamser, gan egluro beth fydd yn digwydd rhwng nawr a’r dyddiad hwnnw.

Yn dilyn y cyfarfod, disgwylir diweddariad pendant gan y brifysgol ar effaith y cynllun, gan gynnwys pa swyddi fydd yn cael eu colli, pa adrannau fydd yn cael eu heffeithio, a pha ddarpariaethau addysgu fydd yn newid neu’n cael eu dileu. Serch y ffaith fod y streiciau a boicotio marcio wedi’u gohirio am y tro, mae’r undebau’n pwysleisio y byddant yn barod i ailgydio mewn gweithredoedd streicio eto, os na fydd cynllun terfynol yn adlewyrchu’r pryderon craidd.